Astudiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

09 Tachwedd 2020
  • Bydd yr astudiaeth yn adolygu'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Byddwn yn helpu i nodi cyfleoedd i wella'r trefniadau rheoli a darparu presennol. 

    Bydd y pwynt asesu cychwynnol ar gyfer cyswllt yn cychwyn y broses o ymyrryd mewn gofal cymdeithasol ac felly bydd yn cael effaith uniongyrchol ar y math o ganlyniad y mae pobl yn ei gael. Am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr yr un hawl i gael asesiad am gymorth ag y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

    Byddwn yn cynnal gwaith maes manwl mewn pum Cyngor: Caerdydd, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

    Mae'r astudiaeth hon yn rhan o raglen flynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru o astudiaethau llywodraeth leol.

    I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch ein taflen [PDF 140KB agorir mewn ffenest newydd].

    I gofrestru diddordeb anfonwch e-bost at y astudiaethau.cyngor@archwilio.cymru