Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae angen i BGCau ddechrau meddwl a gweithredu’n wahanol, a chael y rhyddid i weithio’n fwy hyblyg, meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Mae’r 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd – a sefydlwyd yng Nghymru i wella llesiant cymunedau – yn annhebygol o wireddu eu potensial oni bai bod newidiadau’n cael eu cyflwyno. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (8 Hydref 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn galw arnynt i weithio’n fwy hyblyg ac i feddwl a gweithredu’n wahanol.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Aelodau pob BGC yw’r cyrff cyhoeddus lleol a rhai grwpiau gwirfoddol o’r ardal y maent yn ei gwasanaethu. Mae’n ofynnol iddynt asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu a phennu amcanion i gynyddu i’r eithaf eu cyfraniadau hwy eu hunain at y nodau llesiant cenedlaethol. Ond mae adroddiad heddiw’n amlygu nifer o broblemau gyda’r ffordd y mae BGCau yn gweithredu ar hyn o bryd. Nid yw cyrff cyhoeddus wastad wedi cymryd y cyfle i fynd ati’n effeithiol i drefnu a darparu adnoddau ar gyfer gwaith y BGCau. Ni chreffir yn gyson ar BGCau ac nid ydynt yn cael eu dwyn i gyfrif yn gyson. Ac, er bod cyrff cyhoeddus yn gwerthfawrogi BGCau, nid oes cytundeb ynglŷn â sut y dylai eu rôl esblygu. Ystyrir bod diffyg cyllid pwrpasol yn cyfyngu ar botensial BGCau i gael effaith gadarnhaol a pharhaus ar gymunedau Cymru.
Er bod gan y BGCau yr aelodau cywir ar y cyfan, nid yw rhai partneriaid allweddol yn chwarae rhan weithredol. Mae cyrff cyhoeddus sy’n gweithio ar draws rhanbarthau’n ei chael yn her cyfranogi mewn Byrddau niferus ac mae gorgyffwrdd o hyd rhwng y BGCau a gwaith ac aelodaeth partneriaethau eraill, yn enwedig y 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol – a sefydlwyd ym mis Ebrill 2016 i lywio’r drefn ranbarthol strategol ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol mewn cydweithrediad agos gydag asiantaethau iechyd.
Un o rolau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus ac i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus; fodd bynnag, nid yw’r cyngor hwn wastad yn cael ei werthfawrogi ac ni weithredir arno bob amser ychwaith.
Mae adroddiad heddiw’n gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys:
Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw:
“Mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y potensial i alluogi’r cydweithio effeithiol sy’n hollol hanfodol er mwyn i Gymru ffynnu mewn cyfnod anodd. Ond mae’r ffordd y maent yn gweithredu ar hyn o bryd yn llesteirio’u gallu i wella llesiant eu cymunedau. Mae fy adroddiad i’n amlygu rhai camau gweithredu pendant a ddylai gael eu cymryd, gan Lywodraeth Cymru a’r Byrddau eu hunain, i helpu BGCau i wireddu eu llawn botensial.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion: