Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Angen mwy o uchelgais a rheolaeth gryfach i gael y manteision mwyaf o fwy na £3 biliwn y flwyddyn o wariant ar seilwaith

22 Mai 2025
  • Mae’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n gam ymlaen o ran darparu cyfeiriad hirdymor sydd â ffocws ar ddeilliannau

    Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o feddwl i gyflawni manteision ehangach ar draws meysydd buddsoddi a chryfhau sut y mae’n rheoli rhaglenni a phrosiectau.

    Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwario oddeutu £3.4 biliwn ar seilwaith yn 2025-26. Mae buddsoddi mewn seilwaith yn darparu asedau newydd neu well fel ysgolion, ysbytai ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gall y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cynllunio ac yn cyflawni’r buddsoddiadau hynny sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ychwanegol hefyd.

    Ym mis Rhagfyr 2021, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru sy’n rhychwantu cyfnod o ddeng mlynedd, yn ogystal â’r Cynllun Cyllid Seilwaith tair blynedd ategol ar gyfer 2022-23 i 2024-25. Canfuom fod y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n gam ymlaen ac yn darparu cyfeiriad tymor hwy sy’n canolbwyntio ar 16 o ddeilliannau strategol, sydd wedi’u gwreiddio yn llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

    Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod adrannau’n cynyddu i’r eithaf eu cyfraniadau at y deilliannau hynny. Mae cyfraniadau bwriadedig nifer o feysydd buddsoddi i’w gweld yn anuchelgeisiol. Ar gyfartaledd, adnabu meysydd buddsoddi gyfraniadau disgwyliedig at dri yn unig o’r 16 o ddeilliannau strategol, gyda rhai’n adnabod cyfraniadau disgwyliedig at un yn unig.

    Canfuom fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i wreiddio deilliannau’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru o fewn ei fframwaith ehangach ar gyfer rheoli rhaglenni a phrosiectau, sydd ag amryw wendidau eraill. Ac er bod dull gwerthuso Llywodraeth Cymru’n defnyddio egwyddorion arfer da, nid yw wedi cael ei roi ar waith yn gyson ac mae’r deilliannau cyffredinol yn aneglur.

    Mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o sicrwydd trwy gynllunio ariannol tymor hwy ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru’n wynebu rhai heriau wrth bennu cynlluniau ariannol tymor hwy, megis bod ei chyllid yn cael ei bennu trwy gylchoedd cyllidebol y DU a chyfyngiadau cylch etholiadol y Senedd. Pennodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyllid Seilwaith un flwyddyn ar gyfer 2025-26, tra’r oedd adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2025 yn yr arfaeth, ac mae’n ystyried ei hopsiynau ar gyfer Cynlluniau Cyllid Seilwaith yn y dyfodol.

    Mae’r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ar gyfer gwella yn y meysydd a nodir uchod yn ogystal â chryfhau’r modd yr adroddir yn gyhoeddus ar gynnydd yn erbyn y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

    ,
    Mae’r £3 biliwn a mwy y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wario ar seilwaith yn sylweddol. Mae’n dda gweld y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n canolbwyntio ar gael mwy o effaith o seilwaith cyhoeddus – yn anad dim yn dilyn cyfnod pan fo chwyddiant a phwysau o ran costau wedi gwasgu cyllidebau cyfalaf. Fodd bynnag, ni fydd y manteision hyn yn dod yn ffaith trwy hyd a lledrith. Mae angen ymdrech ar y cyd i gydlynu peirianwaith y llywodraeth – gan greu cynlluniau ar gyfer y manteision hyn o’r dechrau un a sicrhau y cânt eu cyflawni dros y tymor hwy. Mae’r materion hyn o fewn gallu Llywodraeth Cymru i’w datrys, ond maent yn dibynnu ar welliant parhaus yn y modd y rheolir rhaglenni a phrosiectau, rhywbeth nad yw wedi cael ei gyflawni hyd yma. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru

    Gweld mwy