Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Angen camau brys i fynd i’r afael â chamweithrediad o fewn y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

23 Chwefror 2023
  • Mae chwalfa mewn cysylltiadau gwaith o fewn y bwrdd yn peryglu’n sylfaenol ei allu i fynd i’r afael â’r heriau niferus y mae’r sefydliad yn eu hwynebu

    Mae’r sefyllfa bresennol yn annhebygol o gael ei datrys heb ryw fath o ymyriad i sefydlu Tîm Gweithredol a bwrdd ehangach mwy colegol ac unedig, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddwyd heddiw.

    Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wynebu heriau a gofynion digynsail ar ei wasanaethau a phryderon hirdymor ynghylch perfformiad, ansawdd a diogelwch nifer o wasanaethau penodol. O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n hanfodol bod y bwrdd yn gweithio mewn modd cydlynol ac unedig i ysgogi’r gwelliannau sydd eu hangen.

    Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch cysylltiadau gwaith ar y lefel uchaf yn y Bwrdd Iechyd wedi arwain i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal adolygiad brys o effeithiolrwydd y bwrdd. Mae’r pryderon hyn yn ogystal â’r problemau yr ydym eisoes wedi adrodd arnynt ynghylch gwallau sylweddol yng nghyfrifon 2021-22 y Bwrdd Iechyd.

    Mae ein gwaith ar effeithiolrwydd y bwrdd wedi canfod cysylltiadau gwaith sydd wedi torri gyda’r Tîm Gweithredol sy’n ei atal rhag gweithio’n effeithiol. Mae hyn, ynghyd â phryderon ynghylch cyflymder newidiadau ac ansawdd sicrwydd a ddarparwyd wedi erydu hyder Aelodau Annibynnol y bwrdd yng ngallu’r Tîm Gweithredol i fynd i’r afael yn gyfunol â’r heriau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu. Mae’r rhwystredigaeth y mae Aelodau Annibynnol wedi ei dioddef wedi arwain iddynt herio aelodau o’r Tîm Gweithredol yn gyhoeddus mewn ffordd y mae rhai o’r farn sy’n elyniaethus ac yn amhriodol. Mae hyn wedi cael effaith niweidiol ar gysylltiadau gwaith a gweithrediad o fewn y bwrdd ehangach ac wedi creu holltau pellach rhwng Aelodau Annibynnol a rhywfaint o’r Tîm Gweithredol.

    Nid yw trosiant yn yr uwch dîm arweinyddiaeth wedi helpu’r sefyllfa. Mae’r sefydliad yn canfod ei hun heb Brif Weithredwr parhaol unwaith eto, ac mae pedwar gwahanol Brif Weithredwr wedi bod yn y swydd ers 2019. Mae dibyniaeth drom ar swyddi dros dro o fewn y strwythur uwch reolwyr ehangach yn dal i’w gweld ac yn dangos anawsterau parhaus yn sicrhau’r capasiti arweinyddiaeth uwch sydd ei angen ar y Bwrdd Iechyd.

    Mae’r Bwrdd Iechyd wedi buddsoddi mewn rhaglen estynedig o waith datblygu’r bwrdd a hwyluswyd yn allanol i geisio mynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu. Fodd bynnag, effeithiwyd ar y gwaith hwn yn rhannol gan yr angen i ymateb i bwysau’r pandemig ac nid yw wedi bod yn llwyddiannus yn creu’r dull mwy integredig ac effeithiol o waith bwrdd sydd ei angen.

    Mae’n amheus a all y Bwrdd Iechyd wneud y gwelliannau angenrheidiol heb ymyriad allanol a bydd angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd presennol i gefnogi’r gwelliannau brys sy’n angenrheidiol. Trwy wneud hynny, bydd angen ystyried y canfyddiadau o’r adolygiad hwn ochr yn ochr â’r rhai o adolygiadau eraill mewn ymateb i bryderon difrifol, ac a allai arwain at gamau penodol ynddynt eu hunain.

    ,
    Mae’r canfyddiadau o’m hadolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn peri pryder eithriadol. Mae’n eglur bod rhai problemau dwfn gyda chysylltiadau gwaith o fewn y bwrdd. Mae angen datrys y problemau hyn fel mater o frys i roi hyder i’r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach bod gan y Bwrdd Iechyd yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arno i fynd i’r afael yn effeithiol â’r heriau sylweddol y mae’n eu hwynebu, ac i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i bobl gogledd Cymru. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd

    View more