O ystyried tirwedd newidiol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, bydd deall disgwyliadau defnyddwyr gwasanaeth yn elfen hanfodol o ail-lunio'r gwasanaethau rydych chi’n darparu. Mae'n brawf litmws ar gyfer gwirio os yw eich gwasanaethau yn addas i'w dibenion.
Yn y weminar hon, fe ddaeth ffigurau allweddol o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru at ei gilydd i rannu eu dulliau a dysgu o brofiadau ei gilydd. Canolbwyntiodd y weminar ar:
- Os ydi hi o bwys beth ydych chi’n galw defnyddwyr gwasanaeth – cwsmeriaid, cleifion, dinasyddion, neu denantiaid.
- Y manteision strategol o ddefnydd gwell o brofiad ac ymgysylltu.
- Y rhwystrau i ddefnydd strategol effeithiol o ymgysylltu a phrofiad a sut ydych chi'n eu goresgyn.
- Sut y gallwch chi gwella eich defnydd strategol o brofiad ac ymgysylltu.
At bwy oedd y digwyddiad wedi ei anelu
Roedd y weminar wedi ei anelu at y canlynol:
- Penaethiaid gwasanaethau
- Penaethiaid cyfathrebu (mewnol ac allanol)
- Timau rheoli newid
- Unedau / timau ad-drefnu gwasanaethau
- Staff profiad cleifion
- Swyddogion ymgynghori
- Byrddau gwasanaethau cyhoeddus
Roedd yn cynnwys trafodaeth rhwng y canlynol:
- Fran Targett, Cyngor Ar Bopeth Cymru
- David Lloyd, TPAS (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) Cymru
- Alison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Alison Ward, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Ble a phryd
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015, 1100-1215
Cyfryngau cymdeithasol