Rydym yn cynnal seminar rhad ac am ddim ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda'r Cyhoedd: Newid y berthynas rhwng y sawl sy’n darparu gwasanaethau a’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau. Caiff y seminar ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Arfer Da Cymru.
Caiff llawer o wasanaethau cyhoeddus eu darparu o hyd o safbwynt y sawl sy’n darparu un gwasanaeth yn unig. Mae hynny’n golygu bod dinasyddion yn profi llawer o wahanol ddulliau gweithredu tameidiog a all arwain at:
- ymyriadau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd neu sy’n gwrthdaro â’i gilydd
- canlyniadau gwael i’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau
- sefyllfa lle caiff adnoddau gwerthfawr eu gwastraffu a lle ceir gwerth gwael am arian.
Bydd y seminar hwn yn cynnig enghreifftiau o sut y mae’r berthynas rhwng y sawl sy’n darparu gwasanaethau a’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau wedi newid, a bydd yn cynnwys enghreifftiau megis trefniadau cydgynhyrchu a mentrau cymdeithasol. Rhoddir pwyslais ar rannu profiadau ymarferol o sut y gall cydberthnasau gwahanol helpu i ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.
Mae’r seminar wedi’i anelu at reolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd y seminar yn cynnwys sesiwn arddangos lawn:
-
Cyflwyniad gan yr Athro Tony Bovaird – Prifysgol Birmingham (PDF)
Ail-lunio gwasanaethau gyda'r cyhoedd: Cydgynhyrchu canlyniadau cyhoeddus o bwys
Yn y De cafodd mynychwyr y ddewis o fynychu dau o’r gweithdai canlynol:
-
Gweithdy gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd – Kerrine Phillips (PDF)
Cyd-gynhyrchu newid iach. -
Gweithdy gan Vanguard – Simon Pickthall (PDF)
Ail-lunio gwasanaethau yn radical ar lefel ardal leol -
Gweithdy gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen – Sally Church a GLL - Jon Argent (PDF)
Felly pam menter cymdeithasol? -
Gweithdy gan Barod CIC – Alan Armstrong (PDF)
Cwrdd yn y canol
Noder mai dim ond yn Saesneg mae'r cyflwyniadau hyn ar gael.
Yn y Gogledd bydd mynychwyr yn cael y ddewis o fynychu dau o’r gweithdai canlynol:
-
Gweithdy gan Barod CIC – Alan Armstrong (PDF)
Cwrdd yn y canol -
Gweithdy gan Hazel Jukes, Beacons Creative
Beacons Creative -
Gweithdy gan Y Cynghorydd Richard Waters, Cyngor Tref Abergele a Rhodri Thomas, Cynnal Cymru
Risg Berthnasol - Profiad Cyngor Tref Abergele o weithio gyda Phrosiect 'Gwreiddiau Cryfion' -
Gweithdy gan Tanya Strange, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Gwasanaeth Gwirfoddoli C.H.A.a.T
Gallwch ffeindio agenda y digwyddiad (PDF).
Ble a phryd
0900 - 1300 Mae digwyddiad Caerdydd nawr wedi pasio.
Dydd Iau 17 Gorffennaf 2014
Stadiwm Swalec, Caerdydd.
Byddwn yn cynnal ail seminar yng Ngogledd Cymru yn mis Medi, gyda agenda diwygiedig wedi’i selio ar brofiadau yn seminar Caerdydd.
0900 - 1300
Dydd Iau 18 Medi 2014
Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF
Cofrestru
Os hoffech chi sicrhau lle neu gofrestru eich diddordeb yn yr ail seminar, e-bostiwch: sharedlearningevent@wao.gov.uk. Mae nifer y llefydd wedi’i gyfyngu i bob sefydliad.
Fel sefydliad cwbl ddwyieithog, rydym yn annog cynrychiolwyr i gyfrannu yn Gymraeg ym mhob un o’n digwyddiadau. Er mwyn i ni allu gwneud trefniadau, fyddech chi cystal â nodi eich dews iaith os gwelwch yn dda.