Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’n bleser gennym gyflwyno ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2026-2030.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn nodi’r pethau allweddol yr ydym wedi ymrwymo i’w gwneud dros y pedair blynedd nesaf er mwyn helpu i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda.
Fe wnaethom gyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol blaenorol ym mis Medi 2022, gan nodi’r pethau allweddol yr oeddem yn bwriadu eu gwneud dros y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2026 i helpu i gyflawni’r DdyletswyddCydraddoldeb Cyffredinol. Yn y cyfnod hwnnw, gwnaethom gynnydd da wrth gyflwyno rhaglen waith sy’n ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol a chyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Adroddwyd ar y cynnydd a wnaed o rancyflawni’r rhaglen waith honno bob blwyddyn yn ein hadroddiadau cydraddoldeb blynyddol. Roedd ein hadroddiad cydraddoldeb ar gyfer 2024-25, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025, yn tynnu sylw at gamau ystyrlon a pharhaus i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad – o recriwtio a chefnogaeth staff, gan gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb yn ein gwaith archwilio, hyd at ein hymgysylltu â’r cyhoedd.
Rydym yn falch o’r cynnydd yr ydym wedi ei wneud ond yn cydnabod bod lle i ni wella o hyd. Felly, rydym wedi datblygu cyfres ddiwygiedig o dri amcan cydraddoldeb a chredwn y bydd yn ein helpu i gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol yn well dros y pedair blynedd nesaf.
Nid ydym wedi datblygu’r amcanion hyn ar wahân. Tua diwedd 2025, fe wnaethom ddatblygu cynigion cychwynnol ar gyfer beth ddylai ein hamcanion cydraddoldeb diwygiedig fod, ar ôl adolygu effeithiolrwydd y camau a gymerwyd a’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion blaenorol. Yna fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion rhwng 8 Rhagfyr 2025 a 30 Ionawr 2026. Cyhoeddwyd yr Ymgynghoriad ar ein gwefan, ei hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’i gylchredeg yn uniongyrchol i ystod eango randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sy’n cynrychioli unigolion â nodweddion gwarchodedig. Ystyriwyd yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus wrth gwblhau cynnwys y Cynllun hwn.
Edrychwn ymlaen at weithio ar y cyd â chydweithwyr y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad i wireddu’r weledigaeth a’r amcanion a nodir yn y strategaeth hon.