Nodiadau Wythnosol o'r Gyfnewidfa Arfer Da 8-12-2022

08 Rhagfyr 2022
  • Ail rifyn o nodiadau wythnosol o'r Gyfnewidfa Arfer Da

    Mae hi’n fis Rhagfyr! Sut? Mae’r Nadolig wedi ei ryddhau oddi ar ei dennyn ac yn rhuthro at y peth agosaf sydd gennym i wledd ganoloesol. Does gen i ddim syniad i le aeth y flwyddyn yma, ac mae hi bron ar ben.

    Mae’r hysbyseb yn dangos diwrnod Nadolig ble mae’r bwrdd yn gwegian dan bwysau’r bwyd. Mae yno gymaint, gormod o fwyd ond dyna’r pwrpas; mae’n ddathliad o deulu a bod gyda’n gilydd. Mae’n daith chwerw-felys ar hyd llwybrau’r cof tra’n creu atgofion a thraddodiadau Newydd ar yr un pryd.

    Dyna fy nehongliad personol i o’r Nadolig. Rwy’n ymwybodol fod y Nadolig yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac nid yw’n gyfnod hapus i bawb. Ofnaf fod y Nadolig hwn yn mynd i fod yn un o gyfaddawdu anodd yng nghanol argyfwng costau byw i ormod ohonom.

    Tlodi

    Ar Dachwedd yr 2il cyhoeddwyd adroddiad ‘Amser am Newid – Tlodi yng Nghymru’ [agor mewn ffenest newydd]. Cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi bu i ni gynnal dau ddigwyddiad (un yng Nghaerdydd ac un yng Nghyffordd Llandudno) yn trafod tlodi yn ogystal â negeseuon o’r adroddiad. Y digwyddiadau hyn oedd y digwyddiadau wyneb yn wyneb cyntaf i ni eu cynnal ers dechrau 2020. Bu i ni ymestyn rhai cyhyrau oedd wedi bod yn segur ers tro wrth eu cynnal hefyd!   

    ‘Roedd yn deimlad braf iawn bod yn yr un ystafell a llawer o bobl oedd yn dysgu, rhwydweithio a rhannu profiadau. Derbyniom adborth da hefyd, ac ‘rydym wedi dechrau’r gwaith ar ein digwyddiadau nesaf.

    ‘Rydym yn gwybod nad yw tlodi yng Nghymru yn newydd o bell ffordd, ond mae’r argyfwng costau byw wedi amlygu’r broblem unwaith eto. Bu i’r siaradwyr yn ein digwyddiadau rannu sut maent yn gweithio i ddeall agweddau gwahanol o dlodi, neu sut maent yn helpu pobl mewn tlodi i wella eu sefyllfa.

    Mae yna lawer o waith da yn cael ei wneud, ac mae adnoddau o’r digwyddiadau ar gael trwy ddilyn y ddolen yma at ein Adnoddau Arfer Da [agor mewn ffenest newydd].

    Pêl Droed

    Mae gwylio Cwpan y Byd ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn teimlo’n od. Mae cynnal Nadolig Pêl Droed mor agos i’r Nadolig go iawn fymryn bach yn ddryslyd. Fel cefnogwr i dîm Cymru ‘rydw i wrth fy modd fod ein gwlad fach wedi cyrraedd am unwaith. Doeddwn i methu mynd, ond bu i mi ei fyw trwy lygaid eraill ar y cyfryngau cymdeithasol ac eistedd ar flaen y soffa yn teimlo’r straen fel unrhyw gefnogwr arall.

    Mae’r problemau hawliau dynol yn Qatar wedi eu nodi a’u cloriannu yn helaeth, gan daflu cysgod dros y twrnament. Ar y llaw arall bu i mi hefyd glywed sgwrs ar y radio gyda un o’r cefnogwyr aeth allan i Qatar, a meddai mai un o’r pethau gorau am y profiad oedd bod cefnogwyr pob gwlad yn Nghwpan y Byd yn cymysgu yn yr un ddinas. Ni fyddai cymysgu o’r fath yn bosib mewn Cwpan y Byd arferol, gan eu bod yn cael eu cynnal ar draws gwlad gyfan.

    Rhan fawr o’r hyn ydym ni’n ei wneud yn y Gyfnewidfa Arfer Da yw dod a phobl at eu gilydd. Mae’n amhosib darogan beth ddaw allan o’r gymysgedd o feddyliau a phrofiadau, ond gall hau hadau â chanlyniadau anhygoel. Does ‘na ddim byd yn sicr, ond mae’r tebygolrwydd o egino pethau da yn codi.

    Nid Cwpan y Byd Qatar fyddai’r un fyddwn ni wedi dymuno ei gyrraedd wedi 64 mlynedd o ddisgyn ar y daith, ond hwn oedd yr un i ni ei gael. Er gwaethaf yr elfennau problemus, rydw i’n meddwl fod bod yn rhan o’r gymysgedd ddiwylliannol ar lwyfan byd eang yn beth da ar y cyfan.

    Dim ond gobeithio na fydd rhaid aros 64 mlynedd arall i ailymuno gyda’r parti.

    Peidiwch a chael Panig eto

    Tra’n ysgrifennu’r blog yma ‘roeddwn yn teimlo fo angen rhywbeth arall cyn cloi. Bu i bob syniad ddaeth wrth i mi drïo disgyn i gysgu hedfan ymaith eto erbyn y bore. Dyma ddechrau poeni byddai rhaid rhyddhau’r cofnod yma i’r byd ac yntau ddim yn gyfan.

    Cyn i mi roi’r ffidil yn y tô, cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer y nifer o siaradwyr Cymraeg. Mae’r data ar gael trwy ddilyn y ddolen yma [agor mewn tudalen newydd]

    Mae’r data yn dangos fod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 562,000 (19%) i 538,000 (17.8%) yn 18 allan o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Fel yng Nghyfrifiad 2011 cofnodwyd y gwymp fwyaf yn Sir Gâr (43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021). ‘Roedd y canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd a Môn.

    Bu cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg mewn 4 Awdurdod: Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Tâf a Merthyr Tudful.

    Mae’n debyg y gwelwn dipyn o adlewyrchu a galw am sachliain a lludw yn y byd Cymraeg yn dilyn y canlyniadau yma. Gan edrych allan trwy ffenest diwylliant sydd yn aml yn teimlo dan fygythiad, mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn siom. Dim ond ymateb cychwynnol yw hynny, gan fod data mwy manwl yn aros i gael ei ryddhau. Nid diwrnod canlyniadau siomedig yw’r amser i wneud newidiadau mawr. Nid proses gyflym yw adfer iaith gwlad.

    Clo

    ‘Rwy’n cyrraedd diwedd y blog yma yn teimlo ychydig yn anesmwyth. Mae ein byd mewnol yn cael eu siglo bob hyn a hyn, weithiau caent eu hysgwyd, eu taro neu eu chwalu. Mae rhywbeth sy’n bwysig i mi wedi erydu eto, rhan greiddiol o’m hunaniaeth yn dirywio. Mae’r is-bennawd uchod yn dweud ‘peidiwch a chael panig eto’ am reswm gan nad ydi hi’n amser i gael panig. Mae’n amser i ystyried y wybodaeth newydd yma a sut mae ein byd yn newid o’r herwydd. Daw amser i benderfynu ac addasu yn hwyrach ymlaen.

    ‘Rwy’n cael fy atgoffa hefyd fod treulio 20 munud tu allan yn rhywle be ‘rydych yn teimlo cysylltiad gyda natur yn helpu llesiant ac iechyd meddwl [agor mewn ffenest newydd]. Mae hynny’n beth da i’w gadw mewn cof, yn enwedig pan mae eich byd wedi cael ei siglo rhyw fymryn.

     

     

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Siôn Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth gyda Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Mae Siôn wedi bod yn gweithio i Archwilio Cymru am 3 blynedd. Cyn hyn, bu Siôn yn gweithio i awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru .