Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Newid cyfeiriad

22 Rhagfyr 2022
  • Mae Rhys sydd o dan hyfforddiant yn Archwilio Cymru yn blogio ar bam ei fod wedi dewis Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion.

    Dechreuais fy ngyrfa waith yn y Diwydiant Peirianneg Sifil, gan weithio'n bennaf ar brosiectau seilwaith DU. Ond ar ôl treulio ychydig o flynyddoedd yn gweithio yn Llundain, penderfynais ddychwelyd adre i Gymru i fod yn nes at ffrindiau a theulu.

    Wrth geisio gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, newidiais hefyd o'r sector preifat i'r sector cyhoeddus.

    Ym Medi 2022, ymunais ag Archwilio Cymru fel Hyfforddai Graddedig. Ar ôl penderfynu cymryd cyfeiriad newydd yn fy ngyrfa broffesiynol, dewisais Raglen Hyfforddi i Raddedigion yn Archwilio Cymru i ddysgu sut yn union y mae gwasanaethau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hariannu a'u gweithredu, canfod sut mae cyfrifon yn cael eu harchwilio ac yn y pen draw ennill achrediad cyfrifeg a gydnabyddir yn rhyngwladol gydag ICAEW.

    Mae'r rhaglen yn fy ngalluogi i gymryd rhan mewn archwiliadau perfformiad lleol yn ogystal ag astudiaethau gwerth am arian cenedlaethol. I mi, mae diwrnod gwaith nodweddiadol yn dechrau drwy ddal i fyny ar waith ac e-byst sy’n ymwneud â hyfforddiant. Unwaith y bydd fy e-byst yn gyfredol, mae gweddill y diwrnod yn cynnwys cyfuniad o gyfarfodydd cydweithwyr/cleientiaid, gwaith archwilio amrywiol a hyfforddiant mewnol/allanol.

    Gall cydbwyso swydd lawn amser wrth astudio i fod yn Gyfrifydd ICAEW Siartredig fod yn frawychus. Yn ystod fy hyfforddiant dwi wedi darganfod bod rheoli amser yn dda yn hanfodol i beidio â gael fy llethu. Mae'r Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion wedi hen sefydlu, felly gwnewch yn manteisiwch i’r eithaf ar rwydwaith cymorth Archwilio Cymru, gan gynnwys hyfforddeion blaenorol a rheolwyr llinell, sy'n ymwybodol o ofynion astudio tra'n gweithio, felly, nid ydych byth yn teimlo eich bod ar ben eich hun.

    Byddwn yn argymell yn fawr y Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion Archwilio Cymru i unrhyw un, p’un a ydynt newydd ymadael â’r brifysgol neu os ydynt wedi treulio ychydig flynyddoedd mewn diwydiant ac mae chwant newid arnynt (fel myfi).

     

    Mwy am yr awdur

    Llun o Rhys Hyfforddai Graddedig

    Ymunodd Rhys ag Archwilio Cymru ym Medi 2022 ac mae'n rhan o glwstwr y Gorllewin.

    Yn ei amser hamdden mae Rhys yn hoff o gadw'n heini p'un ai drwy chwaraeon tîm (pêl-droed, rygbi, pêl-fasged, pêl-rwyd), chwaraeon raced (badminton, tenis), gweithgareddau awyr agored (caiacio, neidio oddi ar glogwyni, clogfeini, golff) neu, yn syml, drwy fynd i'r gampfa.