Rhan 2: Effaith y Cornafeirws ar bobl sy’n cysgu allan – a yw hyn yn gyfle i roi diwedd ar ddigartrefedd ar y strydoedd?

05 Tachwedd 2020
  • Mae’r coronafeirws wedi effeithio arnom ni i gyd; ond mae’r effaith ar bobl ddigartref wedi bod yn llawer mwy drastig.

    Pan roddwyd ein trefi a’n dinasoedd dan glo, fe gaeodd mannau cyhoeddus, ac fe gyfyngwyd ar symudiadau yn yr awyr agored. Fe helpodd yr ymateb hwn i arafu lledaeniad y feirws ac achub bywydau trwy leihau’r cyfleoedd i’r feirws gyflymu a rhoi rhagor o bobl mewn perygl.

    Fe ymatebodd llywodraethau ledled y byd yn gyflym i symud pobl ddigartref oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety. Lleolwyd dros 1,200 o bobl mewn motelau ledled Seland Newydd. Yn yr un modd, fe gartrefodd yr wyth talaith a thiriogaeth yn Awstralia 5,000 o bobl a oedd yn byw ar strydoedd eu prifddinasoedd – gan ehangu eu llochesi, bwcio ystafelloedd mewn gwestai, meddiannu adeiladau cyhoeddus, ac ar y cyfan gwneud beth bynnag oedd ei angen i gadw pobl ddwy fetr ar wahân mewn tai glân, sefydlog. Yn nhri mis cyntaf y pandemig fe gynorthwyodd Llywodraeth Cymru gynghorau i ailgartrefu dros 800 o bobl a oedd yn cysgu allan neu mewn perygl o ddigartrefedd.

    Un o ganlyniadau annisgwyl y cyfnod dan glo yw bod yr arfer o gysgu allan wedi cael ei leihau’n sylweddol. Mesur mewn argyfwng oedd gweithredu mesurau cloi caeth. Ond mae hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn gyffredinol o ran helpu pobl i ddatrys problem yr ymddangosai am flynyddoedd ei bod yn amhosibl cael ateb iddi – symud pobl a oedd wedi bod yn cysgu allan yn y tymor hir oddi ar y strydoedd, i mewn i lety a chyda chyfle i ailadeiladu eu bywydau.

    Yr her yn awr yw adeiladu ar y polisi cychwynnol hwn a gwneud y newid hwn mewn argyfwng yn newid parhaol. Gwyddom nad yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn hawdd; ond dyma’r peth iawn i’w flaenoriaethu. Bydd yn lleihau’r galw ar wasanaethau brys ac acíwt, mae’n achub bywydau ac yn gwneud defnydd gwell o arian. A yw hyn yn ddichonadwy?

    Yn seiliedig ar ein hymchwil rydym ni, yn Archwilio Cymru, yn credu am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth bod lleihau maint cysgu allan yng Nghymru’n bosibilrwydd. Ond mae angen i gyrff cyhoeddus nid dim ond canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl do uwch eu pennau. Mae angen i’r holl bartneriaid newid yr hyn y maent yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud.

    Ar lefel genedlaethol mae’n hanfodol bod llywodraethau’n rhoi arweinyddiaeth glir ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn. Mae angen i bob rhan o’r sector cyhoeddus gydweithio i ddarparu tai amgen, a rhoi cymorth a chynhorthwy i’r rhai sydd heb le i gadw’n ddiogel. Yn hyn o beth mae Cymru eisoes ar ben ffordd.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei bod yn buddsoddi £20 miliwn arall a fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi ac addasu cartrefi gwag i atal pobl ddigartref rhag gorfod mynd yn ôl ar y strydoedd ar ôl y pandemig. Gofynnir i gynghorau ddatblygu cynlluniau a dod o hyd i gartrefi parhaol ar gyfer cannoedd o bobl sy’n cysgu allan a symudodd i lety argyfwng yn ystod y cyfnod o fod dan glo.

    Ar y brig, y neges yw “gallwn wneud hyn”. Ond beth arall y mae angen iddo ddigwydd?

    Ar ddiwedd y mis byddwn yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn nodi sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i roi diwedd ar gysgu allan. I helpu i wneud yr uchelgais hwn yn realiti rydym ni’n credu bod angen i gyrff cyhoeddus:

    • Gytuno ac ymrwymo i atal pobl rhag fyth orfod cysgu allan. Mae ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd yn anfon y neges eich bod chi o ddifrif ac yn perchnogi hyn.
    • Derbyn na all yr un sefydliad unigol ddatrys hyn – mae gan bawb ran i’w chwarae. Efallai y byddwch yn meddwl bod eich rôl yn ymylol ac nid yn ganolog. Efallai ei bod yn ymylol, ond nid yw hynny’n golygu nad yw’n bwysig. Gall yr holl gyrff cyhoeddus wneud gwahaniaeth yma.
    • Troi geiriau’n weithredoedd – buddsoddi mewn gwasanaethau a derbyn bod cost i’ch sefydliad i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Yn bwysig, dengys ein hymchwil y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at dalu’n ôl i bwrs y wlad sawl gwaith drosodd.
    • Dylunio a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n annog pobl i’w defnyddio, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ar y strydoedd.
    • Cydnabod bod lle i ddarpariaeth ddigidol; ond y gall hefyd fod yn rhwystr. Mae angen i wasanaethau gael eu personoli, nid eu safoni.
    • Lleihau biwrocratiaeth – rhaid i systemau a phrosesau fod yn ystwyth.
    • Integreiddio a chydweithio i drechu problemau – pobl, swyddi, systemau a swyddfeydd. Mae angen i ddatrysiadau fod yn eang, yn gyflym ac yn ddiwyro.
    • Dilyn y dystiolaeth – gwirio beth sy’n gweithio’n fynych a mynd ati’n gyflym i newid yr hyn nad yw’n gweithio.

    Mae ein hadroddiad yn cynnwys hunanasesiad i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i helpu i lunio’u hymateb. Rydym hefyd wedi cyhoeddi offeryn data i nodi ble y mae angen inni ganolbwyntio gwaith atal yn y dyfodol i fynd i’r afael o ddifrif â digartrefedd yn y tymor hir.

    Mae Cymru ar drothwy cyflawni rhywbeth gwirioneddol drawsnewidiol. Mae ymateb i effaith y pandemig ar gysgu ar y stryd wedi dangos beth sy’n bosibl – yn awr ein lle ni i gyd yw sicrhau mai dim mwy o ddigartrefedd yw’r ‘normal newydd’!



     

    Am yr awdur

     

    Nick SelwynRheolwr Llywodraeth Leol yn Archwilio Cymru yw Nick Selwyn, a chanddo gyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan a’n gwaith gydag Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru 15 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol ym meysydd tai a gofal cymdeithasol ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig.