Sut y penderfynais newid gyrfa a dod yn hyfforddai yn Swyddfa Archwilio Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio graddedigion, gofynnwyd i rai o'n hyfforddeion presennol i flogio a dweud pam y gwnaethant gais yn y lle cyntaf a sut beth yw bywyd ar raglen graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru.

    Yma, mae Jodie Williams yn ysgrifennu am fyfyrdodau personol.

    I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd].

    Ar ôl graddio yn 2010, es i weithio i awdurdod lleol. Yn fy swydd flaenorol, roeddem yn cael archwiliad blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd gwaith Swyddfa Archwilio Cymru bob amser wedi fy niddori a phan gefais wybod am y rhaglen i raddedigion, penderfynais fod angen newid gyrfa a gwneud cais.

    Un o'r prif bethau a wnaeth fy nenu i wneud cais am y cynllun hwn i raddedigion oedd y cyfle i archwilio cyrff cyhoeddus ac, er ei fod yn swnio'n ystrydebol, y cyfle i weithio i sefydliad sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus.

    Roedd hi'n anodd newid o swydd ddiogel roeddwn wedi bod ynddi ers bron i 7 mlynedd i yrfa lle nad oedd gen i unrhyw brofiad o gwbl. Fodd bynnag, dydw i ddim wedi edrych yn ôl! Rwy'n gweithio i dîm Gogledd Cymru ac mae fy nghydweithwyr wedi bod yn gefnogol ac yn groesawgar iawn. Yr wythnos cyn dechrau fy nghyfnod sefydlu, cefais fy ngwahodd i gyfarfod clwstwr y tîm. Roedd cael y cyfle i gwrdd â'r tîm cyfan cyn dechrau fy archwiliad cyntaf yn bendant wedi gwneud i mi deimlo'n fwy cyfforddus. Cafodd cyfaill ei aseinio i mi hefyd er mwyn gofyn unrhyw gwestiynau, mawr neu fach.

    Mae'r gwaith rwyf wedi'i wneud ers ymuno â'r cynllun i raddedigion yn 2017 wedi bod yn amrywiol ac yn heriol. Rwyf wedi bod yn rhan o dimau a fu'n archwilio Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol amrywiol, gan gynnwys archwilio hawliadau grant. Rydym yn weithwyr symudol ac felly rydym yn gweithio yn safleoedd cleientiaid fel arfer.

    Fel rhan o'r cynllun i raddedigion, rydym yn ffodus i gael y cyfle i fynd ar secondiad i gorff cyhoeddus arall am tua 5 mis. Rwyf ar fin mynd ar secondiad i Fwrdd Iechyd Lleol ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y profiadau a'r heriau newydd a fydd yn codi wrth weithio mewn maes cyfrifyddu ariannol arall. Mae hyfforddeion eraill sydd wedi bod ar secondiad wedi dweud bod y profiad wedi bod yn fuddiol iawn.

    Mae'r pecyn astudio sy'n rhan o'r cynllun i raddedigion yn hael iawn. Rydym yn cael cyfnod astudio â thâl er mwyn mynd i goleg yng Nghaerdydd i gael ein tiwtora a pharatoi ar gyfer arholiadau wrth astudio i gyflawni cymhwyster proffesiynol ICAEW (ACA) sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

    Gan nad oeddwn wedi astudio ers 7 mlynedd, roeddwn i braidd yn bryderus i ddechrau fy mod wedi anghofio sut i adolygu! Fodd bynnag, rwy'n teimlo bod y darparwr tiwtora a'm cydweithwyr wedi bod yn hynod o gefnogol a'u bod yn fwy na pharod i helpu.

    Yr awdur

    Jodie WilliamsYmunodd Jodie â Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion Swyddfa Archwilio Cymru yn 2017.

     

    Graddiodd o Brifysgol Bangor lle bu'n astudio Seicoleg.