O na fyddai bathodyn Sgowtio ar gyfer ‘Brexit’…

05 Tachwedd 2020
  • Fel nifer fydd wedi ymwneud â mudiadau’r Sgowtiaid neu’r Guides yn ystod eu plentyndod, mae rhai cynghorion sylfaenol wedi’u hymgorffori ynof fi o oedran ifanc iawn – gan gynnwys arwyddair y Sgowtiaid: ‘Byddwch yn Barod’.

    Wrth ddechrau ym myd gwaith, cefais fy nghyflwyno i’r model 6 P: “Perfect Planning and Preparation Prevents Poor Performance” – ac ydw, rwyf yn gwybod eich bod yn gallu chwilio Google am y fersiwn milwrol sy’n cynnwys P ‘ychwanegol’!

    Mae’r ddau ymadrodd hwn wedi dod i fy meddwl yn ddiweddar, wrth i’n tîm prosiect symud yn gyflym i greu drafft a chyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar barodrwydd Cymru ar Brexit ‘heb gytundeb’ [agorir mewn ffenest newydd]. I ddweud y gwir, wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn, mae’r senario’n edrych yn debygol iawn o hyd mewn llai na 900 awr o amser.

    Ond sut all cyrff cyhoeddus ar draws Cymru gynllunio a pharatoi’n synhwyrol am amrywiaeth mor eang a chymhleth o risgiau a chanlyniadau posibl sy’n gysylltiedig gydag ymadawiad o’r UE? Ac ydy hi’n iawn iddyn nhw wario adnoddau prin yn paratoi am rhywbeth sydd â phosibilrwydd o beidio â digwydd ar 29 Mawrth, neu o gwbl?

    Mae ein hadroddiad yn cynnwys ymateb clir iawn i’r ail o’r cwestiynau hyn. Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi ysgrifennu i holl Brif Weithredwyr cyrff cyhoeddus Cymru ym mis Ionawr i’w gwneud hi’n glir na fydd yn feirniadol o’r rhai hynny sy’n cymryd camau rhesymol i baratoi ar gyfer a lliniaru risgiau sy’n gysylltiedig â Brexit. Cyn belled ag y bydd Brexit ‘heb gytundeb’ yn parhau’n bosibilrwydd yna nid yw gweithredu i reoli ei oblygiadau sylweddol posibl cyn iddi fynd yn rhy hwyr yn wastraff arian.

    Y cwestiwn anoddaf wrth gwrs yw’r cyntaf. Mae gymaint o effeithiau posibl Brexit yn parhau i fod yn anhysbys ac yn hynod ansicr; rydym yn deall rhai risgiau’n dda ac wedi cynllunio’n helaeth ar eu cyfer, ac mae eraill y gellir eu lleihau ond nid cael gwared arnynt.

    Gwelodd ein hadroddiad fod y darlun yn amrywio’n sylweddol, er bod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn cymryd eu cynllunio ‘heb gytundeb’ o ddifrif. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd arweinyddiaeth glir, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae nifer o gyrff yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r capasiti pwrpasol i gynllunio ar gyfer Brexit.

    Mae ein hadroddiad yn galw am ddull ‘un gwasanaeth cyhoeddus’ cryfach a dyfnach ar gyfer paratoadau sydd i ddod, er mwyn helpu i sicrhau ymateb gwasanaeth cydlynol ar draws gwasanaethau. Ac mae angen cynyddu ein cyfathrebu gyda’r cyhoedd nawr ar frys – set glir, gyson a mesuredig o negeseuon yn cael eu cyhoeddi gan yr holl gyrff cyhoeddus a ddylai helpu i osgoi panig ac amhariad.

    Er bod y 6 P yn bendant yn cynnwys mwy nag ychydig o wirionedd, mae hefyd yn wir na ellir lliniaru holl risgiau Brexit. Ac felly, yn ogystal â ‘Bod yn Barod’ fel ein harwyddair Brexit, efallai y dylai cyrff cyhoeddus ledled Cymru hefyd fod yn dilyn esiampl Clwb y Sgowtiaid? Ar ddiwedd ein cyfarfodydd pecyn wythnosol yn yr 1970au byddem yn ymgasglu o amgylch cylch Akela, a fyddai’n galw: “Cybs, gwnewch eich gorau”. Yr ymateb yn glir dros y neuadd oedd: “Fe Fyddwn Yn Gwneud Ein Gorau!”

    Mae pobl Cymru, sy’n dibynnu ar bawb sy’n gweithio mor galed ar draws gwasanaethau cyhoeddus ar baratoadau Brexit, yn disgwyl ac yn haeddu gymaint â hynny.

    Gwybodaeth bellach

    Gweminar

    Ar 5 Mawrth 2019, rydym yn cynnal gweminar mewn partneriaeth gyda Chonffederasiwn GIG Cymru a’r WLGA. Ei fwriad yw i helpu swyddogion anwetihredol a chynghorwyr wrth iddynt graffu ar gynlluniau Brexit yn eu sefydliadau, Mae manylion llawn ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd].

    Digwyddiadau

    Mae Academi Cymru hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar 13, 19 a 20 Mawrth, i helpu’r sector cyhoeddus wrth iddo baratoi am Brexit. Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos ar wefan Academi Cymru [agorir mewn ffenest newydd].

    Mike Usher blog pic and twitterAm yr Awdur

    Mae Mike Usher yn aelod o uwch dîm arweinyddiaeth Swyddfa Archwilio Cymru ac yn Arweinydd Sector ar gyfer y Llywodraeth Ganolog ac Iechyd.

     

    Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad mewn archwilio allanol yn y sector cyhoeddus.