Fy atebion i dri chwestiwn pwysig am gynllun hyfforddeion Swyddfa Archwilio Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio graddedigion, gofynnwyd i rai o'n hyfforddeion presennol i flogio a dweud pam y gwnaethant gais yn y lle cyntaf a sut beth yw bywyd ar raglen graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru.

    Yma, mae Sarah Liddell yn ysgrifennu am fyfyrdodau personol.

    I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agor mewn ffenest newydd].

    Pam y gwnaethoch ddewis gweithio fel Archwilydd?

    Mae hwn yn gwestiwn y gofynnir i mi'n aml oherwydd bod llawer o'r farn bod Archwilwyr ychydig bach yn ddiflas, ac yn gwneud yr un peth bob dydd – ond gallaf ddweud gyda sicrwydd nad yw hyn yn wir yn Swyddfa Archwilio Cymru a dyma fu'r penderfyniad gorau a wneuthum i ymuno â'u Cynllun Hyfforddi i Raddedigion!

     

    Gan edrych yn ôl at fy amser yn y Brifysgol ar y Cynllun Rhwydwaith 75 (cynllun gradd seiliedig ar waith), a bod yn onest, nid oeddwn yn gallu gweld fy hun yn dod yn archwilwyr am fy mod wedi gweithio mewn dwy adran gyllid a chael profiad o archwiliadau “o'r ochr arall”. Fodd bynnag, tuag at ddiwedd y cynllun 5 mlynedd, canfûm fy mod yn mwynhau Archwilio yn y brifysgol ac roeddwn yn dyfalu sut beth fyddai gweld pethau o safbwynt yr Archwilydd!

    Felly, pam wnes i gais i Gynllun Graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru?

    Yn fyr, pa sefydliad arall sy'n rhoi'r cyfle i ennill cymhwyster cyfrifyddiaeth sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ochr yn ochr â phrofiad ymarferol ar draws gwahanol gyrff y sector cyhoeddus, lle mae'r gwaith yn cael effaith wirioneddol ar wasanaethau cyhoeddus?

     

    Ar ôl gweithio yn y sector preifat, , sylweddolais fy mod am deimlo bod fy ngwaith yn cyfrannu at fywyd o ddydd i ddydd a'r cyfle i weithio fel archwilydd lle mae'r gwaith yn helpu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n briodol, wrth ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif, yn apelio ataf, felly roedd Swyddfa Archwilio Cymru'n ymddangos yn berffaith!

    A minnau bellach yn fy ail flwyddyn, mae'n wir dweud bod yr amser wedi hedfan ac rwyf wedi mwynhau pob munud ohono! Yn y cyfnod cymharol fyr o amser rwyf wedi gweithio ar archwiliadau gan gynnwys yr heddlu, cyrff iechyd ac awdurdodau lleol, gyda phob un yn cynnig her newydd yn sgil y codau ymarfer gwahanol maent yn eu dilyn – sy'n golygu bod rhywbeth i'w ddysgu bob amser! Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus o fod yn rhan o'r Prosiect Dadansoddi Data, sy'n edrych ar ffyrdd y gellir defnyddio technoleg i wella'n gwaith, felly mae pob diwrnod yn wahanol!

    Nid yn unig hynny, rwyf bob amser wedi teimlo fy mod wedi cael fy nhrin fel rhan bwysig o dîm ac nid yn rhif yn unig! Hyd yn oed pan ddechreuais, teimlais fy mod yn cael fy nghroesawu gan bawb a sylweddolais fod swm diddiwedd o gymorth ar gael ac na fyddai unrhyw gwestiwn yn rhy fach. Dyma un o'r rhesymau allweddol pam rwy'n mwynhau gweithio yn Swyddfa Archwilio Cymru oherwydd does dim ots pa mor brysur mae pawb, mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd i helpu ei gilydd – nid ydych byth yn cael eich gadael i ddioddef!

    Oherwydd bod y Cynllun Hyfforddiant i Raddedigion wedi bod yn ei le am sawl blwyddyn, mae gan hyfforddeion bresenoldeb cryf yn y swyddfa sydd i gyd yn rhoi cymorth amhrisiadwy i'w gilydd. Rydym wedi trefnu ychydig o ddigwyddiadau i hyfforddeion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys Pantomeim Nadolig, ac, wrth gwrs, taith i Baris i ymweld â llygoden enwog!

    Gan fy mod wedi astudio Cyfrifyddu a Chyllid yn y Brifysgol, nid wyf hyd yma wedi ymgymryd ag unrhyw arholiadau ACA proffesiynol oherwydd cefais eithriadau o arholiadau'r  flwyddyn gyntaf! Fodd bynnag, mae rhaniad pendant rhwng gwaith ac astudio, sy'n golygu y gallwch ganolbwyntio'n llwyr ar yr arholiadau am ychydig o fisoedd!

    Yn olaf, a fyddwn yn argymell bod eraill yn gwneud cais?

    Yn bendant! Mae Cynllun i Raddedigion Swyddfa Archwilio Cymru yn gyfle gwych i ennill cymhwyster cyfrifyddiaeth wrth weithio mewn sefydliad cyfeillgar a chefnogol lle mae'r gwaith yn wirioneddol bwysig!

     

    Mae amrywiaeth a gwerth y gwaith yn parhau i'm rhyfeddu! Fel rhan o archwilio'r datganiad ariannol, rwyf wedi gweld arddangosiad o feddalwedd Technoleg Adnabod Wynebau newydd sy'n ceisio nodi a dal troseddwyr, a gall canfyddiadau o'n gwaith grant, yn enwedig budd-dal tai, effeithio'n uniongyrchol ar fywydau'r hawlwyr – felly mae ein gwaith yn cynnwys gwerth gwirioneddol!

    I grynhoi, rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad ar y cynllun hyd yma a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i wneud cais – fel yn fy achos i, gallai hwn fod y penderfyniad gorau a wnewch.

    Ynglŷn â'r Awdur

    Sarah LiddellSarah Mae Sarah yn hyfforddai ail flwyddyn gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

     

    Graddiodd o Brifysgol De Cymru yn 2017 ar ôl astudio Cyfrifon a Chyllid.