Drws blaen gofal cymdeithasol i oedolion

05 Tachwedd 2020
  •  

    Atal ar waith?

    adult-social-care-1Ddydd Gwener 30 Tachwedd gwelwyd grwpiau a sefydliadau o bob rhan o'r DU yn dod at ei gilydd i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Ac er gwaethaf y diwrnod llwyd, hydrefol, roedd yr hwyliau yn Neuadd y Sir Cyngor Caerdydd – lle cefais wahoddiad i fynd i ddigwyddiad Rhwydwaith Staff Gofalwyr y Cyngor – ymhell o fod yn ddiflas.

     

    Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr mae'r pwyslais ar godi ymwybyddiaeth o'r help a'r cymorth y mae gan ofalwyr hawl iddynt, a'r bywyd y mae ganddynt hawl i'w fyw.

    Gall bod yn ofalwr fod yn rôl foddhaus a gwerth chweil, ond gall hefyd fod yn drwm iawn ac mae'n aml yn arwain at ofalwyr yn esgeuluso eu llesiant eu hunain. Er fy mod yn gwybod hyn, cefais fy synnu o hyd i ddarllen bod 70% o ofalwyr yng Nghymru yn dweud eu bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, sy'n ganran anhygoel.

    adult-social-care-2Am y tro cyntaf, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael eu hasesu ar gyfer eu hanghenion cymorth eu hunain, yn gyfartal i'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Gall yr asesiad fod ar y cyd, ochr yn ochr â'r person(au) y maent yn gofalu amdanynt, neu asesiad unigol, ar wahân.

    Ledled Cymru, ceir 370,000 o ofalwyr sy'n cynorthwyo un o'u hanwyliaid sy'n hŷn, yn anabl neu'n ddifrifol wael, heb gael eu talu am wneud hynny. Fodd bynnag, mae ffigurau cenedlaethol hyd at fis Ebrill 2018 yn dangos mai dim ond cyfran fach iawn o'r rhain (llai na 4%) oedd wedi cael eu hasesu gan awdurdodau lleol i weld pa gymorth roedd ei angen arnynt.

    Un o’r ystadegau mwyaf trawiadol a gyhoeddwyd gan Gofalwyr Cymru yn eu Papur Briffio Olrhain y Ddeddf diweddaraf yw nad oedd 65% o bobl â chyfrifoldeb gofalu wedi nodi eu hunain fel gofalwr yn y flwyddyn gyntaf o ofalu. Mae gofalu am eraill yn rhan o'n natur ddynol. Ffrindiau, meibion, merched; brodyr neu chwiorydd; mamau a thadau; rhiant, partner neu berthynas – i lawer, nid oes llinell rhwng hyn a dod yn ‘ofalwr’. Mae hyn yn dangos rhan o'r her y mae llywodraeth leol a chanolog yng Nghymru yn ei hwynebu o ran sicrhau bod mwy o ofalwyr yn cael eu hysbysu, eu cynnwys a/neu eu hasesu, er mwyn atal eu hanghenion rhag gwaethygu.

    Rhagwelir y bydd cynnydd o 107% o ran y rhai 85 oed a hŷn yng Nghymru erbyn 2035.

    Mae diwallu anghenion pobl mewn modd ataliol yn hollbwysig er mwyn rhoi unrhyw siawns i wasanaethau cyhoeddus Cymru ymdrin yn effeithiol â'r galw cynyddol. Mae darparu ‘ateb atal ’ llwyddiannus  yn golygu ymyrryd gyda'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr; hyd yn oed os yw'r ymyriad hwnnw yn ddim mwy na chyfeirio pobl i'r wybodaeth gywir.

    Pam rydym yn siarad am hyn…

    Dulliau ataliol o fewn y drws blaen i ofal cymdeithasol i oedolion yw ffocws un o'n hastudiaethau cenedlaethol llywodraeth leol ar gyfer 2018-19 – prosiect diddorol tu hwnt ac sy'n agoriad llygad ac wedi cymryd llawer o'm hamser dros y misoedd diwethaf. Mae'n cynnwys adolygu'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf a gweithredu'r newid diwylliant cysylltiedig wrth newid y ffocws o'r hyn na all pobl ei wneud, i'r hyn y gallant ei wneud er mwyn hyrwyddo eu hannibyniaeth.

     

    Gyda'i ffocws ar atal, mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth dwyieithog a hygyrch, efallai ar ffurf siop un stop lle gall pobl gael mynediad i gymorth eu hunain neu gael eu hatgyfeirio i asesiad pellach o'u hanghenion.

    Hyd yma, rydym wedi cynnal gwaith maes manwl mewn pum cyngor mewn gwahanol rannau o Gymru ac mae hyn wedi cynnwys mapio’r llwybrau sy'n rhaid i ddefnyddwyr gwasanaethau eu dilyn os byddant yn ymuno â system ofal eu cyngor. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi siart lif clir sy'n dangos sut y gallai'r broses edrych. I lawer o gynghorau, mae eu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn dod yn ‘ddrws blaen’ ac mae wedi bod yn ddiddorol tu hwnt treulio amser gyda swyddogion rheng flaen sy'n gweithio yn y timau hyn a gweld sut y maent yn gwneud atal yn realiti.

    Mae'r astudiaeth yn rhan o raglen flynyddol Swyddfa Archwilio Cymru o astudiaethau llywodraeth leol yn genedlaethol. Ein cwestiwn cyffredinol yw: ‘A yw asesiadau a phrosesau pwynt cyswllt cyntaf awdurdodau lleol yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn well yn unol ag ymrwymiadau’r Ddeddf?’

    Heb os, bydd cael ‘ydy’ neu ‘nac ydy’ i’r cwestiwn hwn yn her a fydd yn rhoi ambell gur pen i ni dros y misoedd i ddod, ond gyda lwc (a digon o goffi a chacennau), rydym am i’n hadroddiad cenedlaethol helpu i ysgogi gwelliannau pellach i bobl yng Nghymru.

    Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad yn 2019, felly rhagor maes o law!

    Ynglŷn â’r Awdur

    Euros LakeMae Euros Lake yn Archwilydd Perfformiad sy’n gweithio yn y Tîm Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol. Mae wedi gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru ers pum mlynedd mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys polisïau'r iaith Gymraeg a chyfathrebu. Y tu allan i'r gwaith, mae Euros yn mwynhau beicio a dilyn hynt a helynt Clwb Rygbi Gleision Caerdydd.