Datgloi potensial Swyddfa Archwilio Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Wyth mis ar ôl dechrau yn ei swydd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae Adrian Crompton yn nodi uchelgais newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru – i ddatgloi ei photensial llawn fel catalydd ar gyfer gwelliannau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Pan ddechreuais ar fy swydd fel Archwilydd Cyffredinol, treuliais y misoedd cyntaf yn teithio hyd a lled Cymru yn cwrdd â Phrif Weithredwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus, ynghyd â llawer o bobl eraill sydd â buddiant yng ngwaith Swyddfa Archwilio Cymru.

    Roeddwn eisiau clywed yn uniongyrchol am y problemau mawr y maent yn eu hwynebu a sut y gallwn helpu i’w cefnogi wrth gyflawni’r heriau hynny.

    Mae’r sgyrsiau hynny wedi llywio fy meddylfryd, a meddylfryd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, wrth inni baratoi ar y cyd y Cynllun Blynyddol cyntaf yn fy nghyfnod fel Archwilydd Cyffredinol. Er bod pawb y siaradais â nhw yn amlwg yn gwerthfawrogi’r gwaith yr ydym yn ei wneud eisoes, maent hefyd wedi rhoi sylwadau pwerus i mi ynglŷn â’r meysydd lle gallwn fod yn fwy effeithiol fyth.

    Ein huchelgeisiau

    Rydym yn gwbl annibynnol ar y llywodraeth ac yn bodoli i roi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda; egluro sut y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion pobl; ac ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella.

     

    Nod y Cynllun Blynyddol hwn yw gosod Swyddfa Archwilio Cymru ar drywydd i fod yn fwy eofn, yn fwy perthnasol ac uchelgeisiol. I wneud hyn, rwyf wedi nodi pedwar maes blaenoriaeth i’n galluogi i gynyddu ein heffaith.

    Y rhain yw:

    1. Ymelwa’n llawn ar ein safbwynt a’n harbenigedd unigryw;
    2. Cynyddu ein hamlygrwydd, ein dylanwad a’n perthnasedd;
    3. Cryfhau ein safle fel llais awdurdodol y gellir bod â ffydd ynddo, a
    4. Bod yn sefydliad sy’n esiampl dda i’r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

    Cynyddu ein heffaith

    Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru ddarlun unigryw a breintiedig ar swyddogaethau’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein Cynllun yn ein hysgogi i wneud mwy o’r safle hwnnw drwy roi pŵer y data, y golwg manwl a’r arbenigedd sydd gennym ar waith; gweithio’r sylfaen wybodaeth honno’n galetach; a chanolbwyntio ar y materion pwysicaf.

     

    I wireddu hyn a gwneud gwahaniaeth, mae angen inni wella’r ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu canfyddiadau ein gwaith. Mae technoleg a dulliau dadansoddi data sy’n datblygu yn cyflwyno llawer o gyfleoedd cyffrous yn hyn o beth.

    Mae angen inni ganolbwyntio hefyd ar gyflawni yn ddi-oed. Nid trwy dorri corneli – cryfder ein gwaith yw pa mor drylwyr a manwl ydyw – ond trwy gyflawni ein gwaith ar adeg pan all gael yr effaith fwyaf o ran llywio trafodaethau a phenderfyniadau ar draws y sector cyhoeddus.

    Rwy’n dymuno bod gennym bwyslais hyderus sy’n amlwg yn wynebu tuag allan. Rwy’n dymuno inni fod ag enw da am ddod â sylwadau annibynnol y gellir bod â ffydd ynddynt i’r amlwg. Ac, rwy’n dymuno inni ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau a chynnal trafodaethau cyhoeddus ar y materion pwysicaf sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Gwneud yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan eraill

    Rwy’n hyderus bod archwilio’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn perfformio’n dda, ond ni allwn fod yn hunanfoddhaol. Mae’n rhaid inni wneud yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan rannau eraill o’r gwasanaethau cyhoeddus, a hynny mewn modd cyson.

     

    Mae Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a minnau yn benderfynol o arddangos safonau uchel o lywodraethu a ffyrdd doethach o weithio er mwyn ein gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol a’n galluogi i addasu i newid.

    Bydd angen arweinyddiaeth glir, gyson a dilys i wneud hyn, gan gynyddu cyflymder ein prosesau gwneud penderfyniadau, a grymuso pobl o bob rhan o’r sefydliad i feddwl am syniadau newydd a rhoi newid cadarnhaol ar waith.

    Ein hymrwymiad

    Fel unrhyw un sy’n newydd i’w swydd, mae’r dyfodol yn fy nghyffroi yn fawr iawn. Mae’r sgyrsiau yr wyf wedi eu cael ag arweinwyr ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn golygu nad wyf dan unrhyw amheuaeth ynghylch maint yr heriau a wynebwn. Ond rwy’n hynod ffodus i arwain sefydliad sy’n llawn pobl dalentog, ymroddgar sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r modd y mae’r gwasanaeth cyhoeddus yn bodloni’r heriau hynny ac yn cyflawni ar ran pobl Cymru.

     

    Fel mae ein Cynllun newydd yn ei egluro, mae’n amser inni gyflawni ein rhan a datgloi ein potensial llawn.

    [youtube https://www.youtube.com/watch?v=3mXk2ocgiOY&w=560&h=315]

     

    Cewch ddarllen ein Cynllun Blynyddol ar ein gwefan.

     

    Am yr Awdur

    DSC_6056Daeth Adrian Crompton yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2018. Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £20 biliwn o arian trethdalwyr ac fe’i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.