Cynaliadwyedd Cymru wledig – mae rhesymau i fod yn optimistaidd

05 Tachwedd 2020
  • Pan fyddwch chi’n dwyn i gof ddelweddau o Gymru wledig, byddwch chi, heb os yn meddwl am fynyddoedd a’r arfordir, defaid a thractorau, ffermwyr a threlars Ifor Williams (‘Gwneuthurwr trelars arweiniol Prydain’) sydd wastad o’ch blaen chi pan fyddwch yn gyrru ar yr A470. gareth-jones-royal-welsh-2018

    Mewn gwirionedd, mae tua 20% o’n poblogaeth yn byw yng Nghymru wledig ac nid yw eu hanghenion nhw yn wahanol i bobl y trefi. Rydym ni i gyd yn dibynnu ar allu defnyddio gwasanaethau allweddol yn ein hardal fel banciau a swyddfeydd post; bod â seilwaith da – priffyrdd, band eang a chludiant cyhoeddus – er mwyn gallu teithio o gwmpas yn lleol ond hefyd i fod yn gysylltiedig ag eraill ar draws y byd. Yn ogystal â hyn, rydym ni i gyd yn dibynnu ar allu defnyddio gwasanaethau allweddol y cyngor yr ydym ni eu hangen – er enghraifft y pwll nofio neu’r llyfrgell leol.

    Mae ein hadroddiad ar sut y mae cymunedau gwledig yn ymdopi a sut y mae cynghorau yn darparu gwasanaethau yng Nghymru wledig, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018, yn nodi bod gostyngiadau mewn cyllid cyhoeddus, demograffeg gyfnewidiol a newid cymdeithasol-economaidd yn cyfrannu at gymunedau gwledig yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

    steve-frank-fieldwork-2018Pwyslais cryf yn ein gwaith oedd siarad yn uniongyrchol â phobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru wledig i sicrhau ein bod yn wir yn deall beth yw Cymru wledig a’r hyn y mae’n ei olygu iddynt. Drwy ein digwyddiadau ymgysylltu yn Sioe Frenhinol Cymru, sioe sirol Bro Morgannwg a Sioe Môn, arolygon ac ymweliadau â chymunedau gwledig ac atyniadau fel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bwthyn Hedd Wyn cawsom ymdeimlad go iawn o werth a phwysigrwydd Cymru wledig a’r heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu.

    Dywedodd trigolion wrthym yn uniongyrchol am eu profiadau a’r dirywiad yng ngwasanaethau’r cyngor yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Roedd rhai gwasanaethau wedi dod i ben, roedd rhai eraill ar gael yn llai aml, ac roedd rhai eraill bellach yn rhy ddrud. A gan fod cynghorau yn gorfod ymdopi â chyllidebau cynyddol gyfyngedig, mae trigolion yn llai cadarnhaol ynghylch y dyfodol.

    Yn erbyn y cefndir hwn, canfuom hefyd resymau i fod yn optimistaidd y gall pethau wella. Gan ddefnyddio enghreifftiau o sut y mae cymunedau, cynghorau a phartneriaid yn ymateb i ymdopi â llai o arian ar draws y DU a Chanada, rydym ni o’r farn bod cyfleoedd i gynghorau a’u partneriaid feddwl a gweithredu’n wahanol ac ailddiffinio eu perthynas â chymunedau gwledig a’r modd o’u cefnogi.

    euros-lake-fieldwork-2018I lwyddo, mae angen i gynghorau ddatblygu gweledigaeth fwy uchelgeisiol ac optimistaidd ar gyfer y dyfodol gan ganolbwyntio ar le a datblygu atebion ar gyfer y system gyfan. Er enghraifft, creu canolfannau aml-wasanaeth fel ‘siop un stop’ ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy’n gallu bod yn ganolbwynt i’r gymuned. Gan fod llai o arian a llai o allu i ddarparu’r amrywiaeth lawn o wasanaethau sydd ar gael yn draddodiadol, rydym ni o’r farn y dylai cynghorau a’u partneriaid hefyd annog cymunedau a thrigolion i wneud rhagor dros eu hunain. Ceir cyfleoedd hefyd i fynd i’r afael â bylchau mewn seilwaith - er enghraifft drwy gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n cyfochri rhwydweithiau bysiau a beicio â gwasanaethau rheilffordd i helpu pobl a busnesau i wneud y mwyaf o gysylltedd digidol drwy fuddsoddi mewn sgiliau digidol.

     

    Er bod angen ymdrech aruthrol, sgil sylweddol a rhywfaint o lwc ar gyfer y llwybr sydd o’n blaenau, rydym ni o’r farn bod rheswm i fod yn optimistaidd ac os bydd cynghorau a’u partneriaid yn dechrau meddwl a gweithredu’n wahanol, yna gallant gyflawni eu rhan i helpu Cymru wledig oroesi a llewyrchu.

    Mae pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn gydnerth iawn, wedi’r cyfan, a byddant yn ffynnu wrth wynebu heriau. Maent wedi goresgyn heriau yn y gorffennol a byddant yn gwneud hynny eto gyda chymorth a chefnogaeth eu cynghorau. Wedi’r cyfan, i ddyfynnu Vince Lombardi “dyw enillwyr byth yn rhoi’r gorau iddi, a bydd pobl sy’n rhoi gorau iddi byth yn ennill” …ac rydym ni’n gwybod nad yw pobl yng Nghymru yn rhoi’r gorau iddi!

    Ynglŷn â’r Awdur

    Nick SelwynMae Nick Selwyn yn Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru, gyda chyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau Cymru-gyfan.