Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

30 Ion 2014 - 9:00yb

Cyhoeddir yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd dan adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004). Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i mi ystyried a ddylwn i, er budd y cyhoedd, ysgrifennu adroddiad ar unrhyw fater a ddaw i’m sylw yn ystod yr archwiliad, er mwyn i gorff archwilio ei ystyried neu ei ddwyn i sylw’r cyhoedd.

27 Ion 2014 - 11:59yp

Yn yr adroddiad hwn ceir trosolwg o’r graddau y mae cynghorau yng Nghymru yn ymateb i’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae’n trafod effeithiolrwydd eu cynllunio ariannol, eu dull o wneud penderfyniadau ariannol a’r camau y maent yn eu cymryd i leihau effaith toriadau sylweddol i’r gyllideb. Mae hefyd yn ystyried i ba raddau y mae cynghorau’n deall effaith eu gweithredoedd ac yn amlinellu rhai syniadau cynnar ar oblygiadau Adolygiad o Wariant 2013 i lywodraeth leol yng Nghymru.

27 Ion 2014 - 5:01yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur

9 Ion 2014 - 9:00yb

Mae hwn, fy nhrydydd adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol, yn crynhoi canlyniadau gwaith archwilwyr yn 2012-13 yn y mathau canlynol o gyrff a archwilir yng Nghymru: Awdurdodau unedol, Cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, Comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, Awdurdodau tân ac achub, Awdurdodau parciau cenedlaethol ac Cyd-bwyllgorau.

1 Ion 2014 - 5:01yp

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o'r gwaith archwilio a wnaed gennyf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) yn ystod 2013.

10 Rhag 2013 - 12:00yb

Edrychodd yr archwiliad hwn ar ddull Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg o reoli rhagnodi ym maes gofal sylfaenol gan geisio ateb y cwestiwn canlynol: 'A yw'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd Iechyd yn cefnogi rhagnodi diogel, effeithiol a darbodus ym maes gofal sylfaenol?' 

1 Rhag 2013 - 1:19yp

Mae gan wasanaethau microbioleg ran flaenllaw i'w chwarae o ran darparu gwasanaethau clinigol i gleifion yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae meddygon teulu a meddygon mewn ysbytai yn dibynnu ar wybodaeth gywir a dibynadwy gan wasanaethau microbioleg i'w helpu i ganfod a thrin heintiau a'u hatal rhag lledaenu.

1 Rhag 2013 - 12:20yp

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o'r gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn ystod 2013.

1 Rhag 2013 - 10:18yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r gwaith archwilio a wnaed gennyf yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre (yr Ymddiriedolaeth) yn ystod 2013.

29 Tach 2013 - 12:20yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur.

Tudalennau