Cyfarwyddwyr

Kate Havard

Example image

Ganed Kate ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chafodd ei haddysg yn un o'r ysgolion cyfun lleol cyn cwblhau gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2002.

Yn syth o'r brifysgol, ymunodd Kate â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Hyfforddai Archwilio Mewnol a dechreuodd ei hastudiaethau cyfrifyddu. Yn 2004, ymunodd Kate â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru ac ymunodd ag Archwilio Cymru ar ei ffurfio yn 2005. Enillodd Kate statws ACCA yn 2007 a daeth yn arweinydd tîm.

Ers hynny, mae Kate wedi arwain a rheoli ystod o waith archwilio mewn cyrff ledled Cymru ac ar draws llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r GIG. Cyn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Archwilio, roedd Kate yn un o Reolwyr Technegol Archwilio Cymru am sawl blwyddyn gyda chyfrifoldeb penodol am adrodd ariannol. Yn y rôl hon, cynrychiolodd Kate Archwilio Cymru ar grwpiau a byrddau fel Bwrdd Cod CIPFA LASAAC, rolau y mae'n parhau i'w cyflawni.

Mae Kate bellach yn aelod o'r Tîm Cyfarwyddwyr ac mae'n arweinydd ymgysylltu ar bortffolio eang o archwiliadau ledled Cymru.

Y tu allan i'r gwaith, mae Kate yn byw yng Ngorllewin Cymru gyda'i gŵr, ei chŵn a'i cheffylau sy'n cymryd llawer o'i hamser. Yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr elusen, mae Kate yn mwynhau gwylio'r rhan fwyaf o chwaraeon ac mae'n ddeiliad tocyn tymor yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.