Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae cynghorau yn buddsoddi yn eu cynlluniau cyfalaf i’w galluogi i ddarparu eu gwasanaethau o ddydd i ddydd, fel adeiladu ysgolion, gwella llyfrgelloedd a phrynu offer a ddefnyddir i ddarparu gofal cymdeithasol. Yn 2023-24, gwariodd cynghorau bron £2 biliwn ar brosiectau cyfalaf. 

    Edrychodd ein hadroddiad ar ba mor dda y mae cynghorau yn cynllunio eu gwariant cyfalaf.

    Yr hyn a ganfuom

    Er bod cynghorau yn cyflawni nifer mawr o brosiectau, nid yw bob amser yn glir sut mae cynlluniau cyfalaf yn helpu cynghorau i gyflawni eu blaenoriaethau. Mae angen i gynghorau hefyd wella’r wybodaeth sydd ganddynt am gyflwr yr asedau a chynnwys hyn yn eu cynllun cyfalaf. 

    Mae ein hadroddiad yn argymell y dylai cynghorau ailedrych ar eu trefniadau cynllunio cyfalaf gan ddefnyddio ein rhestr wirio, sy’n nodi agweddau allweddol ar gynllunio cyfalaf yn effeithiol. 

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Nodi cyfleoedd i gynghorau a Llywodraeth Cymru gynllunio gwariant cyfalaf yn well

    Gweld mwy
CAPTCHA