
-
Cyngor Sir Ynys Môn – Adolygiad o Reoli Datblygu a Gorfodaeth…
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Defnyddio Gwybodaeth am…
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot – Pennu amcanion llesiant
-
Adroddiad briffio ar ddata ynghylch Gweithlu’r GIG
Mae ein Cynllun Blynyddol yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 ac mae'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ein huchelgeisiau tymor hwy a'n dangosyddion perfformiad allweddol.
Yng Nghynllun Blynyddol Archwilio Cymru, mae'r Archwilydd Cyffredinol a Chadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.
Ychydig amdanom ni
Ar ran pobl Cymru, ac yn gwbl annibynnol ar y llywodraeth, rydym yn archwilio gwariant cyhoeddus ac yn nodi ffyrdd o wella gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym yn archwilio tua £21 biliwn o incwm a gwariant, sydd dros chwarter cynnyrch domestig gros Cymru.
Ynglŷn â'n Cynllun
Mae ein Cynllun Blynyddol yn amlinellu ein blaenoriaethau a'n rhaglenni gwaith arfaethedig dros y 12 mis nesaf, ar gyfer ein gwaith archwilio a’n gwaith o weithredu’r busnes.
Mae gan archwilio ran hanfodol o ran rhoi'r wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, gwleidyddion, penderfynwyr a dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Yn ein Cynllun, rydym yn crynhoi’r prif ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn cyflawni ein rhaglen o waith archwilio dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd ein Strategaeth Pum Mlynedd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yng ngwanwyn 2022.
Related News
