Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaethom ystyried sut y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynllunio ac yn darparu addasiadau tai i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i aros yn eu cartrefi.
Mae perfformiad y Cyngor o ran darparu addasiadau tai wedi bod yn bryder am nifer o flynyddoedd. Rydym yn cydnabod bod y Cyngor wedi gwneud newidiadau i’r gwasanaeth ers ein hadroddiad yn 2018 ac y cyflwynwyd adroddiadau rheolaidd i’r Aelodau. Fodd bynnag, ac eithrio gwelliant bach mewn dau fath o addasiadau ar gyfer 2025-26 mae perfformiad yn dal i ddirywio. Mae trigolion Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn aros am dros ddwy flynedd ar gyfartaledd am addasiad.
Er ei fod wedi cynyddu ei gyllideb gyfalaf yn ddiweddar, ar adeg ein gwaith maes ni, nid oedd gan y Cyngor gynllun eglur i ymdrin â’i berfformiad. Mae gwendidau mewn cynllunio strategol a darparu adnoddau, dysgu a gwerthuso, a diffyg cydgysylltu rhwng staff ar wahanol gamau’r broses yn effeithio ar effeithiolrwydd y gwasanaeth. Yn seiliedig ar hanes y Cyngor yn y maes hwn a’r cynnydd hyd yma o ran darparu addasiadau tai, nid oes gennym hyder yng ngallu’r Cyngor i ymdrin yn gyflym â hyn. Ers ein gwaith maes, mae’r Cyngor yn datblygu cynllun i ymdrin â’n canfyddiadau.
Rydym wedi crynhoi’r prif gryfderau a meysydd ar gyfer gwella isod:
Cryfderau
• Mae gan y Cyngor un pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr.
• Mae’r Cyngor yn monitro perfformiad ar gyfer amseroldeb a’r gost ar y cyfan.
• Mae gan y Cyngor reolaethau sicrhau ansawdd a chymeradwyo.
• Mae’r Cyngor wedi gwella ei system TG.
• Mae’r Cyngor wedi cyflwyno fframwaith contractwyr.
Meysydd ar gyfer gwella
• Mae amser darparu’r Cyngor yn gwaethygu ac ar hyn o bryd mae’n cymryd dwy flynedd i ddarparu addasiad ar gyfartaledd.
• Nid yw’r Cyngor yn deall y galw am addasiadau yn y tymor canolig a hir.
• Nid oes gan y Cyngor wybodaeth gyfoes ar-lein i helpu defnyddwyr y gwasanaeth i ddeall y broses.
• Nid yw’r Cyngor yn ymgysylltu â grwpiau rhanbarthol i ddeall sut y mae materion yn cymharu ac i ddysgu o’u profiadau.
• Nid oes gan y Cyngor rhyw lawer o ddealltwriaeth pa un a yw’n cyflawni gwerth am arian.