Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae angen diweddaru strategaeth ystadau’r Bwrdd Iechyd. Nid yw’n cynnwys cerrig milltir eglur, monitro rheolaidd na chynllun cyflawni a ariennir. Mae trefniadau llywodraethu yn eu lle, ond cyfyngedig yw’r oruchwyliaeth gan y Bwrdd a phwyllgorau. Mae trefniadau gweithrediadol yn fratiog ar draws y tair Cymuned Iechyd Integredig. Mae hyn yn arwain at ddyblygu ac yn cyfyngu ar ddull cyson o ymdrin â pherfformiad, cydymffurfio a risg.

    Mae gan y Bwrdd Iechyd brosesau i reoli buddsoddi cyfalaf. Fodd bynnag, mae cynllunio byrdymor, aliniad strategol gwan a gwybodaeth reoli wael yn lleihau sicrwydd bod cyllid yn cael ei gyfeirio at y blaenoriaethau uchaf. Mae gan yr ystâd risgiau sylweddol o ran gwaith cynnal a chadw sydd wedi ôl gronni. Er ei bod yn fwy newydd na chyfartaledd Cymru gyfan, mae ganddi gostau cynnal a chadw uchel. Mae data asedau anghyflawn a systemau ar bapur hefyd yn cyfyngu ar brosesau penderfynu effeithiol.

    Mae’r Bwrdd Iechyd yn wynebu risgiau i ddiogelwch a chydymffurfio oherwydd cyflwr ei ystâd, yn enwedig diogelwch tân. Mae cydymffurfiaeth wedi gwella, ond mae mesurau allweddol yn dal i fod islaw cyfartaledd Cymru gyfan. Mae goruchwyliaeth fratiog, prosesau gwan i dracio camau gweithredu a defnydd cyfyngedig o adborth gan staff a chleifion yn gwneud risgiau’n anos i’w rheoli. Mae’r gweithlu ystadau’n wynebu risgiau ar ffurf swyddi gwag, heriau recriwtio, absenoldeb oherwydd salwch a gweithlu sy’n heneiddio hefyd. Mae gweithgarwch cyfyngedig i gynllunio’r gweithlu’n creu risgiau i gynaliadwyedd hirdymor.

CAPTCHA