Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Uchelgeisiau Archwilio Cymru ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

06 Medi 2022
  • Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol newydd yn dangos cynnydd hyd yma a sut rydym yn bwriadu gwneud mwy.

    Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad Cydraddoldeb ar gyfer 2021-2022, yn ogystal â'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2022-26.

    Mae ein hadroddiad Cydraddoldeb yn edrych ar y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

    Rydym yn falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn gyda'r rhan fwyaf o'r amcanion cydraddoldeb a osodwyd gennym yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol blaenorol yn cael ei fodloni. Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau i 12% ac mae llawer o'n hadroddiadau archwilio wedi taflu goleuni ar anghydraddoldebau yn ein cymdeithas. Edrychodd un astudiaeth ddiweddar ar effeithiolrwydd trefniadau asesu effaith ar draws sector cyhoeddus Cymru.

    Ar y cyfan, cydnabyddwn fod gennym waith i'w wneud o hyd. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr o ddewis a chynyddu amrywiaeth ein gweithlu. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2022-26 yn gosod cyfres newydd o amcanion ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

    Bydd symud y diawl ar rai mesurau amrywiaeth yn cymryd amser ac felly rydym yn angerddol am ehangu ein gwaith allgymorth fel rhan o'n strategaeth recriwtio dan hyfforddiant a phrentisiaid. Credwn y bydd hyn yn cynyddu ein hamrywiaeth, yn ogystal â'n helpu i ddenu'r talent gorau a sicrhau ein bod yn cynrychioli'r cymunedau rydyn ni'n gweithio ynddyn nhw. Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o gyrff eraill y sector cyhoeddus yn nigwyddiad cyntaf Partneriaeth Busnes Symudedd Cymdeithasol yng Nghymru, a chydweithio â hwy, eleni, gyda'r nod o chwalu'r rhwystrau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel wrth geisio dilyn gyrfa broffesiynol.

    Rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwaith yn hygyrch ac yn gynhwysol - gan alluogi pobl Cymru i ymgysylltu â ni mewn ffordd sy'n hawdd ac ystyrlon iddyn nhw.

    Yn fewnol, rydym am ddarparu diwylliant lle gall pawb ffynnu, a byddwn yn gweithio gyda'n rhwydweithiau staff i benderfynu ar lefelau'r gefnogaeth sydd ei angen ac i ddysgu o brofiadau staff. Byddwn hefyd yn adnewyddu ac yn diweddaru ein hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gorfodol ac yn adolygu ein canllawiau cydraddoldeb yn rheolaidd. Mae pob aelod o staff yn haeddu teimlo eu bod yn ddiogel, yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi yn Archwilio Cymru a byddwn yn parhau i gasglu adborth er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd

    ,
    Rydym wedi ymrwymo i sbarduno cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac nid yn unig yn Archwilio Cymru fel sefydliad, ond yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a'r cyrff sector cyhoeddus rydym yn gweithio gyda nhw. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton a Chadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Lindsay Foyster
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad Cydraddoldeb 2021-22

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cydgynllun Cydraddoldeb Strategol 2022-2026

    View more