Staff yn barod i gyfarfod â'r cyhoedd yn Sioe Frenhinol Cymru

09 Tachwedd 2020
  • Bydd staff o bob ran o’n sefydliad tu ôl i’n stondin yn y Sioe Frenhinol o ddydd Llun 20 Gorffennaf tan ddydd Iau 23 Gorffennaf.

    Mae ein cynllun blynyddol yn amlygu un o'n prif amcanion, sef "ymgysylltu'n fwy effeithiol â’r cyhoedd, mae eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid eraill i fesur effaith ein gwaith, asesu ein perfformiad a mesur ein llwyddiant."
    Sioe Frenhinol Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop ac mae'n denu tua 250,000 o bobl bob blwyddyn. Mae hwn yn gyfle gwych ar gyfer ein staff i gyfarfod â'r cyhoedd ac, yn bennaf:
    • siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud
    • gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud am y gwasanaethau cyhoeddus rydym yn eu harchwilio
    • casglu adborth ar ein gwaith a'r sefydliad, a
    • hyrwyddo manteision gweithio yn Swyddfa Archwilio Cymru drwy ein Rhaglen hyfforddai archwilio.
    Os ydych yn mynd i Sioe Frenhinol Cymru, mae croeso i chi alw draw a dweud hylo. Byddwn hefyd yn anfon negeseuon o’n cyfrif Trydar @WalesAudit [Agorir mewn ffenest newydd] drwy gydol yr wythnos – cymerwch ran neu ddilynwch ein negeseuon Trydar drwy’r hashtag #waoRW.