Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Archwilio Cymru yn llongyfarch Barnes, Archwiliwr o dan Hyfforddiant, ar ei gyflawniad mawr

01 Mai 2025
  • Rydym wrth ein bodd bod ein Harchwiliwr o dan Hyfforddiant, Barnes Lloyd-Jenkins wedi derbyn y wobr gyntaf a gwobr Railton am gyflawni'r marc uchaf yn yr arholiad Strategaeth Busnes a Thechnoleg.

    I ddathlu'r cyflawniad enfawr hwn, fe wnaethom ofyn ychydig o gwestiynau i Barnes i ganfod mwy.

    Sut ydych chi'n teimlo am eich gwobr?

    Wrth fy modd, roeddwn i'n meddwl fy mod wedi gwneud yn dda ond doeddwn i erioed wedi dychmygu fy mod wedi gwneud cystal â ny. Rwy'n hynod falch o ymuno â'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'clwb Ysgrifbin Aur' yn ôl un o’r Uwch Archwilwyr yn y gogledd.

    Beth wnaeth i chi benderfynu bod yn hyfforddai?

    Penderfynais ddod yn hyfforddai gan fy mod wedi cwblhau fy nghymhwyster gradd/AAT ac roeddwn i'n edrych i barhau â'm datblygiad personol, roeddwn eisoes yn gweithio yn y sector cyhoeddus mewn cyngor lleol pan ddes i o hyd i'r hysbyseb a sylweddoli y byddai'n gyfle perffaith i barhau tuag at fod yn siartredig yn llawn.

    Pam wnaethoch chi ddewis rhaglen Archwilio Cymru?

    Dewisais Archwilio Cymru gan fy mod eisoes yn gweithio ym maes cyllid y sector cyhoeddus ac rwyf bob amser wedi bod yn eithaf chwilfrydig am archwilio. Roedd yna ychydig o adegau lle bu'n rhaid i mi ddarparu tystiolaeth am waith yr oeddwn wedi bod yn ymwneud ag ef i'r tîm archwilio yn Archwilio Cymru yn ystod cyfnod fy swydd flaenorol ac rwy'n credu bod hynny'n plannu'r hedyn yn fy mhen 'Sut beth fyddai gweithio fel archwilydd' - Roedd yn gyfle euraidd mewn gwirionedd ac roeddwn i'n ddigon ffodus bod yr hysbyseb wedi mynd allan ddwywaith y flwyddyn honno ar gyfer fy nghlwstwr. Fe wnes i ddigwydd dod ar ei draws yr ail dro iddo fynd allan.

    Beth yw eich hoff ran o fod yn hyfforddai?

    Mae hynny'n gwestiwn anodd, byddwn i'n dweud y bobl rwy'n gweithio gyda nhw a'r ffaith bod archwilio yn bwnc mor eang. Nid ydych byth yn gwneud yr un peth ddwywaith a dweud y gwir. Mae clwstwr Gogledd Cymru i gyd yn bobl hyfryd ac mae'r diwylliant yn Archwilio Cymru mor groesawgar. Rydw i wedi gweithio mewn ychydig o leoedd dros y blynyddoedd sydd â diwylliant gwaith ofnadwy ac mae'n gwneud byd o wahaniaeth.

    Beth ydych chi'n eich gweld yn ei wneud yn y dyfodol?

    Dydw i ddim yn hollol siŵr, byddwn i wrth fy modd yn parhau gydag Archwilio Cymru dim ond oherwydd faint rwy'n ei hoffi yma. Ond mae'r wobr hon wedi sbarduno fy chwilfrydedd ynghylch a oes rhyw agwedd arall ar gyfrifeg nad wyf wedi'i archwilio eto ac y byddwn i'n dda iawn ynddo. Os ydw i'n symud ymlaen serch hynny? Byddaf bob amser yn cofio Archwilio Cymru yn annwyl ac yn cadw llygad i ddychwelyd yn y dyfodol.

    Oes gennych chi unrhyw gyngor i unrhyw un sy'n meddwl am fod yn hyfforddai graddedig?  

    Ewch amdani, mae'n gyfle gwych ac mae Archwilio Cymru yn sefydliad gwych.

    Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Barnes eto ar ei gyflawniad ac edrychwn ymlaen at weld ei yrfa yn symud ymlaen ymhellach.