Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Archwilio Buddsoddiad Ataliol yng Nghymru, ymunwch â ni yn ein swyddfa yng Nghaerdydd

09 Mai 2025
  • Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad sydd i ddod, sy’n canolbwyntio ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

    Archwilio Buddsoddiad Ataliol yng Nghymru


    Dyddiad: Dydd Llun 2 Mehefin 2025

    Amser: 1-4yp

    Lleoliad: Archwilio Cymru,1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ

    Cost: Am ddim i fynychu

    Bydd y gynhadledd hanner diwrnod wyneb yn wyneb hon, a gaiff ei chynnal gan CIPFA, yn dod â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o gyllid cyhoeddus, llywodraeth leol, iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, i archwilio sut y gall y sector cyhoeddus yng Nghymru fuddsoddi'n well mewn atal, lleihau'r galw hirdymor am wasanaethau acíwt, a gwella deilliannau lles.

    Gyda ffocws ar strategaethau ymarferol, bydd y digwyddiad yn ymdrin â phynciau fel:

    • Mapio a mesur buddsoddiad ataliol

    • Heriau a chyfleoedd wrth fabwysiadu dull ataliol

    • Adeiladu gweledigaeth hirdymor ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru


    Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn buddsoddiad ataliol a thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn arbennig o berthnasol i weithwyr proffesiynol ym maes cyllid cyhoeddus, llywodraeth leol ac iechyd cyhoeddus. Mae hefyd wedi'i achredu o ran DPP, gan gynnig 3 awr o ddatblygiad proffesiynol.

    Pam ddylech fynd iddi?
    Byddwch yn cael mewnwelediadau ffres gan arbenigwyr y sector, Dr Eleanor Roy, Rheolwr Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol, CIPFA a Zachary Scott, Ymchwilydd Polisi (Atal), CIPFA, ynghyd â lleisiau uchel eu parch eraill yn y maes yn rhannu eu profiadau trwy sgyrsiau ysbrydoledig, astudiaethau achos, a thrafodaeth banel. Ynghyd â chyfle rhwydweithio gyda chynrychiolwyr sy'n sbarduno newid cadarnhaol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Archebwch eich lle nawr trwy ymweld â CIPFA Archwilio buddsoddiad ataliol yng Nghymru