Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Er bod gan y Cyngor Strategaeth Llyfrgelloedd newydd, rydym wedi canfod rhai diffygion yn ei datblygiad. Cyfyngedig fu’r ymgysylltu â staff a chymunedau. Hefyd, nid oes gan y Cyngor gynllun cyflawni sy’n nodi sut y bydd yn gweithredu ac yn monitro’r strategaeth. Mae hyn yn hollbwysig o ystyried yr heriau ariannol tymor canolig sy’n wynebu’r Cyngor. Mae perfformiad yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi gwella, ond mae adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2024- 25 yn parhau i godi pryderon ynghylch lefelau staffio, oriau agor ac effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae’n dod i’r casgliad y bydd hi’n cymryd nifer o flynyddoedd i’r gwasanaeth ddod dros yr heriau y mae wedi’u hwynebu. Mae’r Cyngor wedi canolbwyntio ar gefnogi staff wrth ddod â’r gwasanaeth yn ôl dan reolaeth y Cyngor, a gellir deall hynny. Roedd agwedd staff ynglŷn â’r gefnogaeth hon yn gadarnhaol. Rydym yn cydnabod bod y Cyngor yng nghamau cynnar ei waith i ganlyn arni â’i strategaeth. Rydym wedi datblygu argymhellion sydd wedi’u bwriadu i helpu’r Cyngor i gryfhau ei drefniadau i roi cymorth i ddarparu’r gwasanaeth. Byddwn am weld y Cyngor yn bwrw ymlaen â’r rhain dros y 6-12 mis nesaf i roi mwy o hyder i ni bod ganddo drefniadau ar gyfer sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran sut y mae’n defnyddio adnoddau.
CAPTCHA