Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Adroddiad Interim hwn yn disgrifio’r cynnydd a wnaed dros y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2025 tuag at gyflawni ein rhaglenni gwaith a gynlluniwyd, ac ar fodloni targedau ein dangosyddion perfformiad allweddol.

    Y cynnydd yr ydym wedi ei wneud ers mis Ebrill

    Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni rhaglen gynhwysfawr ac effeithiol o waith archwilio.

    Cwblhawyd pob archwiliad ac eithrio un o gyfrifon GIG 2024-25 erbyn 30 Mehefin 2025. Cwblhawyd pob archwiliad o gyfrifon llywodraeth ganolog a oedd wedi’u trefnu erbyn 30 Medi 2025, ac rydym wedi cyhoeddi chwe allbwn adroddiad cenedlaethol. Fodd bynnag, mae problemau ansawdd gyda rhai cyfrifon llywodraeth leol 2024-25 drafft, ynghyd â dirywiad i ansawdd papurau gwaith ac oedi o ran ymatebion cyrff llywodraeth leol i ymholiadau archwilio, yn golygu bod cyflawni’r holl archwiliadau yn y sector hwn yn llwyddiannus erbyn terfyn amser 31 Hydref mewn perygl.

    Rydym wedi gweld cynnydd o 77% i ohebiaeth newydd ac achosion chwythu’r chwiban allanol o gymharu â’r un cyfnod yn 2024. Mae’r rhain yn ffyrdd y gellir eu defnyddio i godi pryderon posibl am y defnydd o arian cyhoeddus gyda ni gan aelodau’r cyhoedd, eu cynrychiolwyr etholedig ac eraill, i hysbysu ein gwaith archwilio.

    Fe wnaethom hefyd fwrw ymlaen â’n hymateb i adolygiad o ba mor effeithiol ydym ni o ran ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys trwy ddatblygu canllawiau i helpu i ymgorffori cynhwysiant ymhellach drwy ein prosesau cyfathrebu.

    Yr Adroddiad Interim hwn yw’r olaf o gyfnod Adrian fel Archwilydd Cyffredinol ac mae’n adrodd ar gynnydd parhaus tuag at gyflawni ein strategaeth pum mlynedd.

CAPTCHA