Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae gwasanaethau gofal llygaid yn dod yn bwysicach wrth i boblogaeth y DU heneiddio. 

    Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn golygu bod mwy o achosion o gyflyrau llygaid sy'n gysylltiedig ag oedran, fel cataractau, dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran a glawcoma. 

    Mae llawer ohonynt, os cânt eu dal yn gynnar, yn aml yn gallu cael eu rheoli'n effeithiol gyda thriniaethau a meddyginiaethau presennol. Ond gall oedi hefyd arwain at fwy o risg o niwed a cholli golwg anadferadwy. 

    O ganlyniad i'r risg uwch o niwed, yn 2019 cyflwynodd GIG Cymru y 'Mesur Gofal Llygaid' sy'n ddull o flaenoriaethu a mesur amseroedd aros yn seiliedig ar gyflwr clinigol a risg o niwed. 

    Mae aros offthalmoleg hefyd yn parhau i gael eu cofnodi a'u hadrodd fel rhan o'r metrigau amser atgyfeirio at driniaeth ehangach.

    Mae'r Bwrdd Iechyd wedi lleihau'r aros offthalmoleg hiraf ond nid yw'n cyrraedd targedau adfer gofal wedi'u cynllunio eto. Mae perfformiad yn erbyn y 'mesur gofal llygaid' yn wael sy'n cynyddu'r risg o niwed y gellir ei osgoi.

CAPTCHA