Cyllid COVID-19 Llywodraeth Cymru

Cyllid COVID-19 Llywodraeth Cymru
05 Tachwedd 2020
aaa

Ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau gwariant newydd mewn ymateb i COVID-19.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Lywodraeth Cymru gynhyrchu Cyllideb Atodol ym mis Mai. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, ymarfer technegol iawn yw’r Gyllideb Atodol Gyntaf, gyda newidiadau cyfyngedig mewn cynlluniau gwariant.

Ond mae diweddariad y Gyllideb eleni yn wahanol. Mae’n cyflwyno cynlluniau ar gyfer £2.5 biliwn o wariant newydd i gefnogi’r ymateb i COVID-19. Mae hyn yn gynnydd o fwy na 10% yng nghyllideb Llywodraeth Cymru: lefel o gynnydd blynyddol heb ei debyg.

Ffynonellau cyllid COVID-19

Mae Ffigur 1 yn dangos y ffynonellau ariannu ar gyfer gwariant COVID-19 Llywodraeth Cymru. Daw’r rhan fwyaf o bell ffordd o gynnydd yn y grant bloc, sy’n cael ei sbarduno’n uniongyrchol gan ymrwymiadau gwariant sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn Lloegr.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailflaenoriaethu’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd sydd ar gael iddi hefyd er mwyn cefnogi’r ymateb i COVID-19 ac wedi symud cyllid oddi wrth rai o’i rhaglenni cyfredol er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i COVID-19.

Ffigur 1: Ffynhonnell £2.5 biliwn o gyllid newydd ar gyfer COVID 19.

Ffigwr 1: Mae’r siart yn dangos bod £1.86 biliwn o’r gyllid yn ganlyniad o ymrwymiadau gwariant yn Lloegr, bod £256 miliwn yn dod o ail flaenoriaethu cyllidebau presennol, bod £245 miliwn yn dod o ail flaenoriaethu cyllideb Undeb Ewropeaidd a bod £107 miliwn yn dod o ffynonellau gwahanol

Sylwer: Mae ‘arall’ yn cynnwys cynnydd yn y grant bloc o ganlyniad i Gyllideb y DU ym mis Mawrth 2020 (nad oedd wedi’i gynnwys yng nghyllideb derfynol 2020-21 Llywodraeth Cymru), sydd wedi gostwng yn rhannol oherwydd gostyngiad disgwyliedig mewn cyllid o’r Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru. Mae mwy o fanylion am hyn yn y Nodyn Esboniadol [agor mewn ffenestr newydd] i Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Archwilio Cymru o Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-2021.

Daw’r £256 miliwn o gyllid wedi’i ailflaenoriaethu o dros 60 o raglenni unigol gwahanol ledled Llywodraeth Cymru. Nid oes digon o le i nodi’r rhain yn fanwl.

Mae rhai o’r prif symudiadau mewn cyllid yn cynnwys: £50 miliwn a fwriadwyd i wella amseroedd aros y GIG; £30 miliwn a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Gymru; £16.3 miliwn ar gyfer cyllido addysg uwch; a £12 miliwn o gyllid ar gyfer prentisiaethau.

Gellir rhannu’r £2.5 biliwn o ymrwymiadau gwariant newydd rhwng dau brif faes gwariant:

  • Cymorth i fusnesau, y sector gwirfoddol a thrafnidiaeth (£1.7 biliwn); a
  • ‘Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ‘ (£763 miliwn).

Cymorth i fusnesau, y sector gwirfoddol a thrafnidiaeth

Mae COVID-19 yn cael effaith sylweddol iawn ar economïau cenedlaethol ledled y byd. Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod economi’r DU wedi crebachu dros 20% yn ystod mis Ebrill yn unig. Dyma’r gostyngiad mwyaf, o gryn dipyn, ers dechrau cadw cofnodion.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi busnesau ac elusennau wrth iddynt geisio goroesi’r storm economaidd hon. Mae Ffigur 2 yn rhoi dadansoddiad o’r ‘Cymorth i fusnesau, y sector gwirfoddol a thrafnidiaeth’.

Ffigur 2: Dadansoddiad o’r £1.7 biliwn a ddyrannwyd ar gyfer cymorth i fusnesau, y sector gwirfoddol a thrafnidiaeth.

Ffigwr 2: yn dangos £1.2 biliwn ar gyfer rhyddhad rhag trethi annomestig a grantiau cysylltiedig; £400 miliwn ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd; £50 miliwn ar gyfer y sector busnesau bach ac elusennau a £40 miliwn ar gyfer trafnidiaeth

Sylwer: Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cynnwys £100 miliwn o arian cyfalaf hefyd sydd wedi’i neilltuo at ddibenion gwahanol ym Manc Datblygu Cymru.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Archwilio Cymru o Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21.

Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill

Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ein holl wasanaethau cyhoeddus hefyd. Rydym wedi gweld trawsnewid cyflym mewn rhai meysydd allweddol, gydag ysbytai maes newydd yn cael eu hadeiladu mewn wythnosau ledled Cymru. Gwelwyd rhai gwasanaethau’n cael eu hoedi a rhai staff yn cael eu symud i gyflawni tasgau eraill.

 

Mae Ffigur 3 yn nodi’r dadansoddiad o’r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Fel y gellid disgwyl yn ystod argyfwng iechyd, dyrannwyd y rhan fwyaf o’r arian i’r GIG. Mae gofal cymdeithasol yn cael £50 miliwn am daliad untro ar gyfer staff a phecynnau gofal ar gyfer cleifion sy’n gwella, yn ogystal â £40 miliwn o fewn Cronfa Galedi Llywodraeth Leol i fynd i’r afael â chostau uwch mewn gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol er mwyn rheoli amrywiaeth o effeithiau, gan gynnwys costau ychwanegol a cholli ffrydiau incwm yn ystod y pandemig.

Ffigur 3: Dadansoddiad o’r £763 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus

Ffigwr 3: yn dangos £494 miliwn ar gyfer iechyd; £188.5 miliwn ar gyfer y Gronfa Caledi Llywodraeth Leol; £50 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol a £30 miliwn ar gyfer gofal plant ar gyfer gweithwyr hanfodol

Sylwer: Mae Cronfa Galedi Llywodraeth Leol yn cynnwys: £40 miliwn ar gyfer costau ychwanegol ym maes gofal cymdeithasol; £40 miliwn i gefnogi’r rhai sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim; £10 miliwn i fynd i’r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd; £7 miliwn i gefnogi’r costau ychwanegol sy’n ymwneud â marwolaethau ychwanegol; a £78 miliwn i wrthbwyso colli incwm a chefnogi cadernid ariannol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Archwilio Cymru o Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-2021.

Adnoddau eraill sy’n gysylltiedig â COVID-19

Yn ogystal â’r arian ychwanegol yn y grantiau bloc a gafodd ei ailflaenoriaethu rhwng adrannau a rhaglenni, bu newidiadau sylweddol o fewn adrannau hefyd i ailgyfeirio cyllid tuag at feysydd blaenoriaeth.

 

Mae Ffigur 4 yn nodi rhai o’r enghreifftiau allweddol.

Ffigur 4: Symudiad cyllid allweddol o fewn cyllidebau adrannol i ymateb i COVID-19.

£29 miliwn o fewn y gyllideb drafnidiaeth ar gyfer y gronfa galedi bysiau, gan gydnabod bod nifer y teithwyr wedi gostwng hyd at 90%. Bydd staff y GIG yn cael teithio am ddim ar fysiau ledled Cymru fel rhan o’r pecyn cymorth hwn hefyd.
£35 miliwn o gyllid cyfalaf o’r Gronfa Gofal Integredig a’r Rhaglen Tai Arloesol i gyflymu’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty ac arafu derbyniadau i’r ysbyty ac ar gyfer llety mwy parhaol i bobl agored i niwed a letyir dros dro.
Cyllid cyfalaf o £200 mil ar gyfer y grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i fynd i’r afael â phroblemau sy’n dod i’r amlwg a wynebir gan ddarparwyr lloches. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer gwelyau, matresi a nwyddau gwyn ychwanegol, yn ogystal ag offer TG i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n gorfod astudio gartref oherwydd bod lleoliadau addysg wedi cau.
Bydd £1.7 miliwn ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion yn cynnwys cymorth newydd i wella’r ddarpariaeth gwnsela, gan gynnwys cymorth sy’n briodol i oedran ar gyfer pobl ifanc dan 11 oed a allai fod yn profi straen neu bryder cynyddol o ganlyniad i’r achosion o Coronafeirws.
£3 miliwn i ddarparu darpariaeth ddigidol i ddysgwyr sydd dan anfantais gan gydnabod nad oes gan lawer o ddysgwyr ifanc fynediad at ddyfais briodol gyda chysylltiad â’r rhyngrwyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar-lein gartref, a £3 miliwn i ddarparu’r rhaglen ‘Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu’ i gefnogi parhad dysgu yn ystod yr argyfwng.
£10 miliwn o’r Grant Cymorth Ieuenctid yn y gyllideb addysg er mwyn galluogi gwasanaethau ieuenctid i barhau i ddarparu cymorth, gan gynnwys trwy allgymorth ar-lein.
£5.5 miliwn i ddarparu cymorth ychwanegol i ffermwyr Cymru a hefyd i roi’r gallu i ffermwyr llaeth cymwys hawlio hyd at £10,000 i dalu am 70% o’r incwm a gollwyd ganddynt er mwyn caniatáu iddynt barhau i weithredu heb effeithio ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.
Dros £4 miliwn o fewn cyllideb Cefnogi Trydydd Sector Cymru i roi cymorth mwy hyblyg i’r ugain o sefydliadau y mae’r gyllideb hon yn eu hariannu.
Hyd at £500 mil o gyllid cyfredol ar gyfer Atal Digartrefedd, i sicrhau llety ychwanegol i bobl sy’n cael eu dadleoli yn ystod y pandemig, yn cynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a charcharorion y gellid eu rhyddhau yn gynnar. Nod y cyllid hwn yw sicrhau cadernid a chapasiti ychwanegol os na all awdurdodau lleol fodloni’r galw’n lleol.
£18 miliwn i ddiogelu busnesau a swyddi o fewn y sectorau diwylliant, creadigol a chwaraeon. Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru i gefnogi sefydliadau bregus yn y sectorau a pharhau i gyflawni ein huchelgeisiau o ran iechyd a llesiant.
Bydd £800 mil yn cael ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dilyn canslo digwyddiadau yn 2020, a fydd yn cynorthwyo parhad busnes gan gynnwys cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau 2021.

Ffynhonnell: Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 Llywodraeth Cymru.

 

Nid diwedd y stori yw’r gwariant newydd, wedi’i ailffocysu, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi nodi yn ei dadansoddiad [agor mewn ffenestr newydd] bod £404 miliwn arall i ddod i Gymru o ganlyniad i ymrwymiadau gwariant newydd yn Lloegr.

Roedd yr arian hwn wedi’i gyhoeddi ond heb ei ffurfioli adeg diweddariad cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n debygol hefyd y bydd cyhoeddiadau pellach ar wariant wrth i’r sefyllfa ddatblygu a’n bod ni’n symud i gamau newydd o’r ymateb i COVID-19.

O fewn cyrff cyhoeddus unigol ledled Cymru, bu ailflaenoriaethu enfawr o ran adnoddau, ac mae angen ystyried hynny hefyd wrth feddwl am effaith ariannol COVID-19.

Yr enghraifft amlycaf yw bod y GIG wedi rhoi’r gorau i bob gweithgaredd nad oedd yn weithgaredd brys; adleoli staff ac addasu theatrau llawdriniaeth at ddibenion cefnogi gofal dwys. Gwyddom fod staff Llywodraeth Leol wedi cael eu hadleoli i rolau newydd, er enghraifft, gyda rhai swyddogion gorfodi parcio yn helpu i reoli ciwiau mewn safleoedd ailgylchu gwastraff sydd newydd agor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod 80% o’i staff wedi bod yn gweithio ar weithgarwch sy’n gysylltiedig â COVID-19 i ryw raddau. Mae ailgyfeirio pobl ac asedau fel hyn yn cynrychioli ailddyrannu sylweddol o adnoddau a ariennir yn gyhoeddus o’r gwaith bob dydd tuag at ymateb i’r pandemig.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwario symiau sylweddol hefyd yn cefnogi pobl yng Nghymru, yn enwedig trwy ei chynlluniau ffyrlo ar gyfer staff a darparu cymorth i weithwyr hunangyflogedig.

Mae data Trysorlys EM yn dangos bod dros 316,000 o weithwyr – tua chwarter y gweithlu – yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y cynllun ffyrlo a bod 102,000 yn rhagor wedi manteisio ar gymorth ar gyfer pobl hunangyflogedig. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar fod tua 80% o fusnesau yng Nghymru yn gwneud rhywfaint o ddefnydd o’r cynllun ffyrlo.

Mae maint y gwariant ar ymateb i COVID-19 yn ddigynsail yn ystod y cyfnod diweddar ac mae cyflymder gwneud penderfyniadau a gweinyddu yn cyflwyno ei risgiau a’i heriau ei hun.

Mewn datganiad diweddar [agor mewn ffenestr newydd], mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi pwysleisio rhai o’r egwyddorion allweddol ar gyfer rheoli’r cyllid hwn yng Nghymru a’i ddull o roi sicrwydd a chefnogi gwaith craffu a gwella.

Am yr awdur

mark-jeffsMae Mark Jeffs yn Rheolwr Archwilio yn y Tîm Astudiaethau Cenedlaethol. Mae wrthi’n rheoli amryw o astudiaethau gwerth am arian gan gynnwys astudiaethau ar dlodi tanwydd, Brexit a’n gwaith Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus. Mae wedi bod gydag Archwilio Cymru a’r sefydliadau oedd yn ei ragflaenu ers 2004.