Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yng nghyfres newydd Y Gyfnewidfa, sef podlediad Archwilio Cymru, 'rydym yn taro goleuni ar gynghorau cymuned a thref - haen o lywodraeth leol sydd yn aml yn gweithio'n galed ond nid yw eu gwaith yn cael y sylw a gwerthfawrogiad mae'n ei haeddu bob tro.
Cynghorau cymuned a thref yw'r haen o lywodraeth leol sydd yn gweithredu ar y lefel mwyaf lleol, gan wasanaethu ardaloedd daearyddol bychan neu drefi unigol. Mae yna 735 cyngor cymuned a thref, ac oddeutu 8000 o gynghorwyr cymuned.
Mae ein cyfres o bodlediadau yn pwysleisio fod gan y cynghorau y potensial i wneud gwahaniaeth gweladwy a diriaethol i'w hardaloedd, a bod cynghorau effeithiol yn gweithio'n galed i gyflawni hynny.
Ar y llaw arall mae cynghorau cymuned yn wynebu heriau. Gall yr heriau yma fod yn deillio o heriau ariannol neu ddiffyg adnoddau, neu hefyd heriau wrth lywodraeth mewn cymunedau clos.
Cynhyrchwyd y gyfres hon mewn cydweithrediad ag Un Llais Cymru, sef y corff sy'n cynrychioli cynghorau cymuned a thref Cymru. 'Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth.
Gallwch wrando ar y podlediad trwy ddefnyddio eich hoff ddarparwr podlediadau, dyma rai dolenni i helpu:
Dolen at ein tudalen SpotifyDolen at ein tudalen Apple Podcasts Dolen at ein Sianel Youtube
Dyma ddisgrifiadau byr o benodau'r podlediad:
Sgwrs gyda Lyn Cadwallader, a Paul Egan, Prif Weithredwr a Diprwy Brif Weithredwr Un Llais Cymru ar y darlun strategol sy'n wynebu cynghorau cymuned a thref.
Sgwrs gyda Emma Smith, Clerc Tref Caerfyrddin ar ei phrofiadau fel clerc a'i rôl fel ymgynghorydd Cymru ar gyfer Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC).
Mae Boyd Painter a Daniel Morse yn gynrychiolwyr ieuenctid ac aelodau heb bleidlais ar Gyngor Tref Blaenafon. Hefyd, Daniel a Boyd yw'r cynrychiolwyr ieuenctid cyntaf i'w penodi i unrhyw gynor cymuned a thref yng Nghymru. Maent yn disgrifio eu profiadau a'r ffyrdd maent yn gweithio er mwyn cryfhau'r gymuned a moderneiddio presenoldeb y cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yma 'rydym yn cwrs â Catrin Jones, Clerc y Dref, y Cynghorydd Angela Jones a David Cassells, un o'r gwirfoddolwyr rhai a sefydlodd Gardd Gymunedol Cae Crwn. Maent yn dathlu llwyddiant Cae Crwn fel gardd a gofod, a rôl Cyngor y Dref fel cynullydd pobl a sefydliadau er budd y gymuned.
Mae tasglu Cyngor Cymuned Cwmbran wedi bod yn helpu trigolion bregus gyda thasgau garddio ac addurno tai ers 2015. Mae Arweinydd y Cyngor, Leanne Lloyd-Tolman a Chadeirydd y Cyngor, Gareth Lloyd-Tolman yn trafod ei lwyddiant, a'u hymroddiad i helpu'r gymuned a gwneud digwyddiadau dinesig yn fwy cynhwysol.
Mae O Law i Law yn siop elusen sy'n arbenigo mewn dillad, teganau ac offer plant a babanod. Ers agor yn ystod pandemig Covid-19, mae'r siop wedi dod yn gymuned ei hun i'w gwirfoddolwyr a chwsmeriaid. Sgwrs gyda'r Cyngohrydd Ann Hopcyn, Cynghorydd Anna Jane Evans ac Ellen Owen, Rheolwr O Law i Law.
Mae aelodau o Gyngor Tref Yr Wyddgrug yn cyfarfod gyda cynghorau ysgol yn rheolaidd.. Yn y bennod hon 'rydym yn dysgu am ymgyrch gwrth fepio a gynhaliwyd yn ddiweddar gan sgwrsio gyda George a Ciara, sef y bobl ifanc tu ôl i'r ymgyrch, yn ogystal a'r Cynghorwyr Pete Dando a Chris Bithell sef y cynghorwyr sy'n cadw cyswllt gyda'r ysgolion. Bu i ni hefyd siarad gyda Lo Jane, Clerc Y Dref, a ddisgrifiodd sut mae'r Cyngor Tref wedi gwarchod ac adfywio parc Bryn y Beili.
Mae Deryck Evans yn Rheolwr Archwilio Ariannol i Archwilio Cymru, a Deryck sy'n arwain y gwaith o archwilio yr holl gynghorau cymuned a thref. Mae Deryck yn rhannu o'i brofiad, gan rannu arfer dda ar gyfer cynghorau effeithiol, ac ychydig o arferion hoffai ei weld yn amlach fel archwilydd.