
-
Cyngor Sir Ynys Môn – Adolygiad o Reoli Datblygu a Gorfodaeth…
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Defnyddio Gwybodaeth am…
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot – Pennu amcanion llesiant
-
Adroddiad briffio ar ddata ynghylch Gweithlu’r GIG
Mae canol trefi wrth wraidd bywyd Cymru
Mae Cymru'n wlad o drefi, pentrefi a chymunedau rhyngddibynnol bach. Mae 193 o leoedd yng Nghymru gyda dros 2,000 o breswylfeydd.
Beth yw'r sefyllfa bresennol?
Gall canol trefi fod yn lleoedd bywiog a chynaliadwy ond mae mynd i'r afael â'r heriau niferus y maent yn eu hwynebu yn gofyn am benderfyniadau dewr ac arweinyddiaeth uchelgeisiol.
Mae dewisiadau polisi yn y gorffennol, disgwyliadau newidiol defnyddwyr a datblygiadau technolegol bellach yn cael effaith andwyol ar lawer o ganol trefi Cymru. Mae llai a llai o 'wasanaethau hanfodol' fel swyddfeydd post a banciau yn aros yng nghanol trefi ac mae 1 o bob 7 siop ar strydoedd fawr Cymru yn wag.
Hefyd, mae ardrethi annomestig yn parhau i wneud y rhan fwyaf o ganol trefi yn lleoedd anneniadol i fuddsoddi.
Mae strydoedd mawr yn fwy na manwerthu yn unig, ond mae hyn yn aml yn cael ei anwybyddu.
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi canol trefi?
Ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ychydig o dan £900 miliwn i helpu i adfywio canol trefi.
Mae busnesau wedi cael cefnogaeth dda yn ystod y pandemig hefyd, ond yn aml nid oes gan awdurdodau lleol y sgiliau, y capasiti a'r adnoddau i helpu creu canol trefi cynaliadwy, er gwaethaf cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru, er eu bod yn allweddol wrth reoli ac adfywio canol trefi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu adfywio canol trefi yn yr adferiad o'r pandemig, ond mae angen iddo sicrhau bod y dull blaenoriaethu canol tref yn ganolog i'w hagenda bolisi ehangach.
Mae angen penderfyniadau dewr.
Related News
