Dim amser i'w golli: Blaenoriaethu atal

21 Gorffennaf 2025
  • Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad 'Dim amser i'w golli: Gwersi o'n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol'.

    Mae pwysigrwydd, a her, symud tuag at atal yn cael ei adleisio yn ein gwaith presennol ar lety dros dro a gofal brys ac argyfwng. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i glywed mwy am y gwaith hwnnw. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i glywed am ganfyddiadau cysylltiedig yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a lansiwyd hefyd yr wythnos hon.

    Bydd y ffocws ar archwilio'r meddwl diweddaraf ar atal ac edrych ar sut y gall cyrff cyhoeddus symud o ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol. Bydd modd i gynrychiolwyr rannu, dysgu a rhwydweithio gyda chydweithwyr o bob cwr o Gymru.

    Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru

    Title Size Link
    Symud y sylw tuag at lesiant hir-dymor a gweithio mewn modd ataliol - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol 7.24 MB Link
    Buddsoddi mewn Cymru iachach: blaenoriaethu atal - Iechyd Cyhoeddus Cymru 2.2 MB Link
    Deall atal yn ymarferol - Archwilio Cymru 959.37 KB Link
    Deall lefelau atal - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 5.38 MB Link
    Deall buddsoddiad mewn, ac effaith atal - CIPFA 724.8 KB Link