Richard Thurston Yn 2020 dyfarnwyd MBE i Richard am wasanaethau i ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Dyma benllanw 30 mlynedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil gymhwysol o ansawdd uchel a’i ddatblygu, gyda’r nod o wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ei ymchwil academaidd wedi cynnwys astudiaethau o wrywdod a throsedd yn ogystal â rhoi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith yn y Gwasanaeth Prawf.
Uwch Archwilydd (Perfformiad) Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yng Nghymru? Ydych chi am ddatblygu eich gyrfa mewn sefydliad sydd mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar welliannau yn sector cyhoeddus Cymru? Mwy am y swydd
Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau (Rhan-Amser) Ynglŷn â'r swydd Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau Mae'r swydd hon am 25 awr yr wythnos ac yn dechrau ar sail 6 mis. Oes gennych chi wybodaeth gadarn am iechyd a diogelwch? Allwch chi fod yn arweinydd y sefydliad ar gyfer Iechyd a Diogelwch? Hoffech chi gael her newydd? Ie? Yna mae gennym gyfle cyffrous i fod yn Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau inni.
Dylunydd Graffeg (rhan-amser) Ynglŷn â'r rôl Rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg hynod greadigol i ymuno â'n tîm arobryn. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dull digidol yn gyntaf o ymdrin â holl allbynnau Archwilio Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â thimau prosiect, gan ddefnyddio eu briffiau i gynhyrchu dyluniadau sydd wedi'u creu yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.