Aelodau'r Bwrdd

Darren Griffiths

Example image

Yn wreiddiol o Ddyffryn Ogwen yng Ngwynedd, mae Darren bellach yn byw ar Ynys Môn.

Mae Darren yn Rheolwr Archwilio Perfformiad sy'n gyfrifol am oruchwylio rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o waith archwilio perfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Darren hefyd sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflwyno gwaith asesu strwythuredig yr Archwilydd Cyffredinol ym mhob un o gyrff y GIG yng Nghymru.

Cyn ymuno ag Archwilio Cymru ym mis Gorffennaf 2020, roedd Darren yn Rheolwr Llywodraethu gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae Darren hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Newid Strategol ym Mhrifysgol Bangor, Rheolwr Cynllunio Strategol Cyngor Gwynedd, a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoli Perfformiad ym Mwrdd Iechyd Lleol Conwy.

Mae gan Darren BA (Anrh) mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol o Brifysgol Cymru, Bangor, ac MA mewn Rheoli Newid o Brifysgol John Moore, Lerpwl.

Ymunodd Darren â'r Bwrdd ym mis Ionawr 2023 fel yr aelod cyflogai wedi’i enwebu gan yr Archwilydd Cyffredinol.