Cyfarwyddwyr

Matthew Mortlock

Example image

Mae Matthew wedi gweithio i Archwilio Cymru ac un o'i gyrff rhagflaenol, Swyddfa Archwilio Genedlaethol (Cymru), ers 2002.

Mae Matthew yn Gyfarwyddwr Archwilio, ar ôl ymgymryd â'r swydd hon ym mis Gorffennaf 2014. Mae'n arwain y timau 'astudiaethau cenedlaethol' ac 'astudiaethau ymchwiliol'. Mae'r allbynnau o'r timau hynny yn sail i lawer o waith Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd (PAPAC). Ymhlith pethau eraill, mae swydd Matthew hefyd yn cynnwys goruchwylio ein perthynas waith â'r PAPAC. Mae ganddo brofiad o ddarparu ac arwain gwaith archwilio perfformiad ar draws ystod eang o feysydd polisi datganoledig.

Symudodd Matthew i Gaerdydd o ganolbarth Lloegr fel myfyriwr yn 1992, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Gradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd. Dechreuodd ei yrfa mewn swyddi ymchwil academaidd ac yna fel rheolwr ymchwil a gwerthuso i Gyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru). Yn 2002, enillodd ei PhD, ar ôl edrych ar rwystrau rhag cymhwyso systemau rheoli hylendid bwyd mewn mentrau bach a chanolig ar draws diwydiant bwyd y DU.

Wrth weithio i Archwilio Cymru, mae Matthew hefyd wedi’i ategu yn ei astudiaethau ar gyfer Diploma mewn Gweinyddu Cyhoeddus drwy Brifysgol Caerdydd a Thystysgrif CIPFA mewn Ymarfer Ymchwiliol. 

Mae Matthew yn dal i fyw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i ddwy ferch yn eu harddegau, mae'n cymryd rhan weithredol ym mywyd Eglwys Fethodistaidd Cathays, ac mae ganddo brofiad fel cyn-ymddiriedolwr elusennol ar gyfer Amelia Methodist Trust Company Cyf.