Yr Un Darlun: Gwahanol Lensys

09 Tachwedd 2020
  • Arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion yn dod ynghyd ar gyfer cynhadledd bwysig i drafod yr hyn y mae gwaith adolygu allanol yn ei ddweud am wasanaethau yng Nghymru.

    Am y tro cyntaf erioed, mae ffigyrau adolygu allanol pwysig yng Nghymru wedi dod ynghyd i gynnal digwyddiad a fydd yn trafod rhai o'r themâu cyffredin sy'n deillio o'u gwaith. Bydd y gynhadledd, a gynhelir ddydd Mercher 5 Tachwedd, yn gweld pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ymuno â'r sawl sy'n rhedeg y sefydliadau hyn er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio'n dda, yr hyn sy'n mynd o'i le a'r newidiadau sydd eu hangen.
    Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n arwain y digwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ynghyd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
    Bydd y gynhadledd yn gyfle unigryw i uwch arweinwyr a llunwyr polisi o'r GIG, llywodraeth leol a llywodraeth ganolog ystyried y materion mwyaf sy'n dod i'r amlwg o waith Comisiynwyr Cymru, yr Ombwdsmon a'r Archwilydd Cyffredinol. Cyflwynir y themâu drwy glywed pobl yn sôn am eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau a'r heriau a'r llwyddiannau a brofwyd ganddynt ar sail themâu gwrando, creu gwerth a chydweithio.
    O dan gadeiryddiaeth Siân Lloyd o'r BBC, bydd cynadleddwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn gwylio astudiaethau achos ar fideo, yn gwrando ar amrywiaeth arbennig o siaradwyr ac yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol er mwyn cyfuno syniadau a safbwyntiau. Mae themâu'r dydd wedi cael eu dewis yn ofalus am eu bod yn faterion sy'n codi dro ar ôl tro ac a nodwyd drwy waith adolygu allanol. 
    Gallwch hefyd ddilyn hashnod y gynhadledd #WAOconf14 yn arwain i fyny at y digwyddiad ac ar ei ôl.
    Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol, heddiw:
    Mae'r digwyddiad hwn yn gwbl newydd yng Nghymru. Yn ogystal â chynnig safbwynt y gymuned adolygu allanol - sydd wedi datgelu themâu cyffredin ar sail profiad defnyddwyr gwasanaethau - mae'n dwyn ynghyd uwch arweinwyr a'r union bobl a wasanaethir ganddynt - er mwyn iddynt gydweithio i ystyried atebion.