Ydych chi'n ymdopi gydag ychydig bach o help?

09 Tachwedd 2020
  • Mae arolwg o ddinasyddion yn gofyn i bobl dros 55 oed yng Nghymru sut mae eu cynghorau’n gwneud o ran eu cynorthwyo i gadw’u hannibyniaeth   

    Ydych chi dros 55? Rydyn ni am gael gwybod eich barn am y gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i’ch galluogi chi i barhau i fyw'n annibynnol. 

    O ddarparu gwybodaeth o ansawdd da, cynnig cyngor a chymorth i fyw'n iach a hwyluso mynediad at weithgareddau cymdeithasol a gwasanaethau hamdden, mae'r arolwg yn gofyn i bobl Cymru sut mae eu hawdurdodau lleol yn llwyddo i ddarparu’r gwasanaethau cymunedol pwysig hyn.
    Dywed Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru: 
    Mae nifer y bobl hŷn yng Nghymru wedi bod yn codi’n gyson dros y 25 mlynedd ddiwethaf a rhagdybir y bydd y nifer yn cynyddu’n sylweddol. A derbyn y newid demograffig hwn, mae’n hollbwysig bod awdurdodau lleol yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn sy’n rhoi gwerth am arian, sydd o fewn cyrraedd ac sydd, yn bwysig iawn, yn helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu henaint. Mae darparu gwasanaethau yn y gymuned, sy’n galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad, yn hanfodol i iechyd a lles pobl hŷn ac rydym yn awyddus i gasglu barn pobl o bob cwr o Gymru fel y gallwn ffurfio darlun cywir o ble y gall pethau wella a sut y gallwn ni fod o gymorth i wneud y gwasanaethau hyn yn well.
    Mae'r tîm adolygu wedi llunio arolwg byr ac maen nhw’n annog unrhyw un sydd wedi defnyddio gwasanaeth, sy’n cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan eu cyngor lleol neu y telir amdano yn anuniongyrchol drwy gyllid y cyngor, i gymryd rhan. Bydd y wybodaeth fydd wedi ei chasglu yn gymorth i siapio a datblygu'r adroddiad terfynol sydd i gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
    Gallwch gwblhau’r harolwg byr, dienw drwy ymweld â’n gwefan Arolwg Help [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n rhoi dolen gyswllt i’r arolwg yn ogystal â pheth gwybodaeth bellach.