Swyddfa Archwilio Cymru yn cyrraedd safon iechyd corfforaethol efydd

09 Tachwedd 2020
  • Cydnabyddiaeth am Iechyd a Llesiant yn y Gweithle

    Dyfarnwyd safon iechyd corfforaethol efydd i Swyddfa Archwilio Cymru – fel rhan o Raglen Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Mae'r dyfarniad, sy'n safon ragoriaeth gydnabyddedig, yn dangos ymrwymiad y sefydliad i gefnogi iechyd a llesiant.

    Mae Iechyd a Llesiant yn allweddol i lwyddiant pob sefydliad am ei fod yn gwella perfformiad a morâl. Mae'n annog cadw staff ac yn denu staff o ansawdd uchel. Mae llesiant yn cynnwys iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol ac mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos cryfder gwirioneddol ym mhob un o'r meysydd hyn. Mae hefyd yn ymrwymedig i barhau i gyflawni newid cynaliadwy gwirioneddol i gynorthwyo'r nod o wneud y sefydliad yn “lle gwych i weithio.”

    Er mwyn cyrraedd y safon, cafodd Swyddfa Archwilio Cymru asesiad, a ystyriodd y meysydd canlynol:

    Cymorth sefydliadol: Ymrwymiad uwch swyddogion; ymgysylltu â chyflogeion; rheoli iechyd a diogelwch; iechyd, gwaith a llesiant; monitro, gwerthuso ac adolygu.

    Materion Iechyd Penodol: Tybaco; iechyd a llesiant meddyliol; anhwylderau cyhyrysgerbydol; camddefnyddio alcohol a sylweddau; iechyd a llesiant bwyd; gweithgarwch corfforol.

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

    “Rwy'n credu ei bod yn wych bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyrraedd y Safon Iechyd Corfforaethol Efydd yn ein hymgais gyntaf, gyda'r aseswyr yn tynnu sylw at amrywiaeth o arfer da ar draws y busnes. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad staff ac arweinwyr ar draws y sefydliad. Rydym yn ymrwymedig i gynnal y momentwm a'r brwdfrydedd hyn a pharhau i gyflawni newid cynaliadwy hirdymor.”