Pwysau i'r Dyfodol ar Wasanaethau Cyhoeddus Cymreig

09 Tachwedd 2020
  • Awdur yr adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yw ein cydweithiwr Mark Jeffs. Mae'n Arweiniwr Archwilio Perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru sydd ar secondiad rhan amser gyda'r fforwm meddwl.

    Awdur yr adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 [Agorir mewn ffenest newydd] yw ein cydweithiwr Mark Jeffs. Mae'n Arweiniwr Archwilio Perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru sydd ar secondiad rhan amser gyda'r fforwm meddwl. Lansiwyd yr adroddiad Pwysau i'r Dyfodol ar Wasanaethau Cyhoeddus Cymreig mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw ac mae'n adeiladu ar ymchwil gan y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol (IFS). Ei fwriad yw darparu darlun cliriach ar y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru, pwysau costau a galw a'r atebion posibl i'r pwysau hyn. Cafodd papur ymchwil Scenarios for the Welsh Government budget to 2025-26 [Agorir mewn ffenest newydd] ei gyhoeddi hefyd heddiw gan yr IFS.