Protocol ar y cyd wedi’i ddiweddaru a gyhoeddwyd ar gyfer gweithio cydweithredol rhwng yr Archwilydd Cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymr

09 Tachwedd 2020
  • Cyhoeddwyd Protocol Gweithredol wedi'i ddiweddaru heddiw sy'n nodi sut fydd yr Archwilydd Cyffredinol a'i staff yn gweithio ynghyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ategu cyswllt effeithiol, cydweithrediad a rhannu gwybodaeth.

    Ei nod yw helpu’r sefydliadau i greu rhaglenni gwaith sy'n gyflenwol ac sy'n osgoi dyblygu gwaith, ac i sicrhau y ceir prosesau clir ar gyfer rhannu gwybodaeth a chroesgyfeirio'r risgiau a phryderon. 
    Lansiwyd yn wreiddiol yn Hydref 2012 ac mae wedi darparu fframwaith glir ar gyfer yr ystod o waith ar y cyd a chydweithredol y mae staff o’n dau sefydliad yn ei wneud fel mater o drefn.
    Yn ddiweddar rydym wedi adolygu'r Protocol i sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd a’i fod yn cymryd i ystyriaeth y datblygiadau newydd, gan bellaf y trefniadau Dwysáu ac Ymyrryd sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer y GIG yng Nghymru.
    Credwn fod y diweddariadau sydd wedi'u cynnwys yn golygu bod y Protocol Gweithredol yn parhau i ddarparu fframwaith ddefnyddiol i sicrhau gweithgareddau’n sefydliadau.