Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood

Heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Pinewood.

Mae’n cyflwyno’r ffeithiau’n gysylltiedig â’r Cytundeb Cydweithredu a lofnododd y ddau gorff ym mis Chwefror 2014 i hyrwyddo cynyrchiadau teledu a ffilm yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at ddiddymu’r cytundeb hwnnw, ynghyd â manylion y Cytundeb Gwasanaethau Rheoli olynol a ddechreuodd fis Tachwedd 2017.

Ym mis Chwefror 2014, prynodd Llywodraeth Cymru hen safle’r Ganolfan Ynni yng Ngwynllŵg, a hynny am £6.3 miliwn, a gwariodd £3.1 miliwn yn ei ailddatblygu i greu stiwdio teledu a ffilm newydd. Yna, cafwyd Cytundeb Cydweithredu rhwng y Llywodraeth  a Pinewood, ac roedd hwn yn cynnwys:

  • gosod y stiwdio i Pinewood ar les, a’i ail-frandio’n Pinewood Studio Wales;
  • creu Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, gwerth £30 miliwn, i hybu’r diwydiant teledu a ffilmio yng Nghymru; a
  • noddi Pinewood i hyrwyddo’r stiwdio (cost flynyddol o £525,600 dros y cyfnod o bum mlynedd) a’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Banel Buddsoddi yn y Cyfryngau i graffu ar gynigion buddsoddi Pinewood. Fodd bynnag, erbyn 2016, roedd y Panel yn anfodlon ar berfformiad y gronfa. Wrth gynnal ein hadolygiad, daeth i’r amlwg bod £13.8 miliwn o’r £30 miliwn wedi’i wario hyd yma, a bod yr arian wedi’i wario ar 14 o brosiectau teledu a ffilm yng Nghymru. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi adennill £4.3 miliwn  o’i buddsoddiad drwy’r prosiectau hyn1

Roedd y Panel Buddsoddi yn y Cyfryngau hefyd yn pryderu am y ffaith bod proffil risg cynigion buddsoddi Pinewood yn uwch na’r disgwyl a bod rhywfaint o wrthdaro yn y ffaith bod Pinewood wedi bod ynghlwm wrth y gyllideb a bod gan y cwmni fuddiant hefyd (nad oedd wedi’i wahardd o dan y Cytundeb Cydweithredu) mewn darparu ei wasanaethau ei hun i’w diwydiant.

Erbyn mis Ionawr 2017, roedd gan Pinewood berchenogion newydd, a mabwysiadwyd model busnes rhyngwladol newydd a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau stiwdio’n hytrach na buddsoddi’n uniongyrchol mewn cynyrchiadau teledu a ffilm.  Erbyn hyn, roedd yn amlwg nad oedd cymaint o alw â’r disgwyl am y stiwdio ac, o ganlyniad, roedd Pinewood yn gwneud colled wedi i’r cyfnod di-rent cychwynnol o ddwy flynedd ddod i ben. 

Dywedodd swyddogion Pinewood wrthym fod Studio Pinewood Wales wedi dioddef wedi i Bad Wolf Studios (Wales) Ltd, sef stiwdio teledu a ffilm newydd, agor yn Trident Park, Caerdydd, fis Mai 2017. Cafodd Bad Wolf hefyd becyn ariannol gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i agor y stiwdio. Mae Llywodraeth Cymru, a pherchenogion Bad Wolf, yn gwrthod yr honiad fod Bad Wolf Studios wedi creu niwed masnachol i Pinewood Studio Wales.

Ym mis Hydref 2017, derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith gyngor ei swyddogion i ddod â les Gwynllŵg i ben ac i atal y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau. Yn dilyn trafodaethau ychwanegol â Pinewood,  cafwyd ‘cytundeb gwasanaeth rheoli’ newydd a fyddai ar waith am dair blynedd gan ddechrau ar 1 Tachwedd 2017. Amcangyfrif mai’r gost net i Lywodraeth Cymru fydd £392,000 y flwyddyn ynghyd â thâl rheoli blynyddol ychwanegol i’w dalu i Pinewood2.

Mae’r amcangyfrif o’r gost net, sef £392,000, yn tybio bod refeniw blynyddol disgwyliedig Pinewood Studio Wales, sef £714,000, yn realistig, er bod y ffigur hwnnw wedi’i bennu cyn i Bad Wolf Studios agor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw’r amcanestyniadau ariannol hyn yn werth da am arian. Fodd bynnag, roedd o’r farn bod y cytundeb gwasanaethau rheoli newydd gyda Pinewood, sydd â’r potensial i gynhyrchu ffrydiau refeniw masnachol i Lywodraeth Cymru, yn well na’r costau y byddai’n gorfod eu hysgwyddo pe bai’n gadael y safle’n wag tra oedd yn chwilio am denant newydd.

Troednodion

1 Mae’r prosiectau hyn wedi’u datblygu i wahanol raddau; nid yw rhai wedi’u rhyddau eto yn y sinemâu rhyngwladol neu nid ydynt wedi’u darlledu ar y teledu eto, a bydd y Llywodraeth yn parhau i adennill arian drwy werthu nwyddau ategol.

2 Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi derbyn haeriad Pinewood y byddai buddion masnachol y cwmni’n cael eu niweidio’n sylweddol pe bai maint y tâl rheoli blynyddol yn cael ei ddatgelu, gan y byddai hynny’n rhoi mantais annheg i’w gwsmeriaid, ei gyflenwyr a’r cwmnïau a sy’n cystadlu â nhw, wrth drafod prisiau yn y dyfodol.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood
Comisiynu Gwasanaethau Llety i Oedolion ag Anableddau Dysgu yn Strategol