Mae gan fwy o aelwydydd yng Nghymru fynediad at y rhyngrwyd erbyn hyn ond mae rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl

Mae gan fwy o aelwydydd yng Nghymru fynediad at y rhyngrwyd erbyn hyn ond mae rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl
09 Mawrth 2023
Menyw aeddfed sy'n defnyddio cyfrifiadur gliniadur gartref.

Mae manteision i’w cael o symud gwasanaethau ar-lein ond gall achosi i rai pobl gael eu hallgau’n ddigidol

Mae ein hadroddiad yn darparu trosolwg o’r materion cymhleth sy’n berthnasol i gynhwysiant digidol yng Nghymru.

Mae bod ‘wedi’ch cynnwys yn ddigidol’ yn golygu bod yn barod i ddefnyddio a gallu defnyddio offer neu wasanaethau digidol yn annibynnol. Mae ‘digideiddio’ yn golygu symud gwasanaethau ar-lein a/neu ddefnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau. Gall nifer o fanteision ddeillio o ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau eraill ond mae risg bod anghenion pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol yn cael eu hanwybyddu.

Mae ein hadroddiad yn amlygu:

  • bod 7% o oedolion yng Nghymru wedi’u hallgau’n ddigidol.
  • bod 14% o breswylwyr tai cymdeithasol wedi’u hallgau.
  • bod 12% o’r rhai ag afiechyd hirdymor cyfyngol wedi’u hallgau.
  • bod 95% o safleoedd yng Nghymru’n gallu cael band eang cyflym iawn.

Er bod data ar gael i ddangos tueddiadau lefel-uchel, nid yw’n rhoi darlun cyflawn o brofiad personol pobl mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys heriau mewn ardaloedd gwledig

Y prif resymau pam fod pobl wedi’u hallgau’n ddigidol yng Nghymru yw:

  • seilwaith digidol ddim ar gael.
  • methu â fforddio dyfeisiau digidol neu gostau’r rhyngrwyd, yn enwedig gyda’r costau byw cynyddol.
  • diffyg sgiliau, cymhelliant a hyder i ddefnyddio’r rhyngrwyd.
  • bod angen help ychwanegol i ddefnyddio technoleg a chael mynediad ati, a gallu defnyddio eu dewis iaith.
  • dewis peidio â defnyddio gwasanaethau ar-lein a bod eisiau cael mynediad at wasanaethau yn y cnawd.
  • pryderon ynghylch diogelwch personol a diogelwch eiddo ar-lein.

Dywedodd rhai pobl wrthym am eu profiad o gynhwysiant ac allgau cymdeithasol:

  • “Does gen i ddim diddordeb bob amser mewn cael mynediad at wasanaethau ar-lein. Mae’n well gen i wneud hynny wyneb yn wyneb neu siarad gyda rhywun ar y ffôn.”
  • “Cael a chael o ran bod yn ddichonadwy” … yw defnyddio’r rhyngrwyd
  • “Mae gennyf orbryder bod pethau’n symud yn gyflym iawn ac mai buan y byddant yn symud yn rhy gyflym i ffwrdd oddi wrth y sgiliau a’r wybodaeth sydd gen i ar hyn o bryd.”

Er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am seilwaith digidol ledled y DU, mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mewn gwella seilwaith band eang. Trwy amryw raglenni ariannu cyhoeddus a phreifat, mae canran yr aelwydydd sydd â mynediad at y rhyngrwyd wedi codi’n gyson ers 2012. Mae prosiectau band eang a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2012 yn cynnwys Cyflymu Cymru, Allwedd Band Eang Cymru, Mynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru a’r Gronfa Band Eang Lleol. Mae cyfanswm y cyllid cyhoeddus ar gyfer y prosiectau hyn, gan gynnwys o ffynonellau eraill, oddeutu £300 miliwn.

Mae Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn disgrifio nodau i helpu pobl i ennill mwy o hyder yn y byd digidol. Mae’r adroddiad yn amlinellu cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith Cymunedau Digidol Cymru (£2 filiwn y flwyddyn ar hyn o bryd) a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (£4.9 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd), sy’n amcanu at gynorthwyo a helpu unigolion a gwasanaethau cyhoeddus gyda digideiddio a chynhwysiant digidol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn gwella seilwaith band eang ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor ddibynnol yw nifer ohonom bellach ar fynediad o ansawdd da at y rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae angen taro cydbwysedd rhwng gwariant ar seilwaith ar y naill law a gwaith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol allgau digidol ar y llaw arall i reoli’r risg o greu cymdeithas ac iddi ddwy haen lle mae mynediad at wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau eraill yn y cwestiwn.

Rydym wedi cyhoeddi dogfen cwestiynau allweddol ochr yn ochr â’r adroddiad hwn i helpu cyrff cyhoeddus i fyfyrio ynghylch ei hymagwedd at gynhwysiant digidol.

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
Cynhwysiant digidol yng Nghymru