Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae cyfleoedd ar gael i Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

25 Ionawr 2024
  • Dwy swydd ar gael

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol.

    Yr Archwilydd Cyffredinol yw Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd hefyd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol, ynghylch arfer ei swyddogaethau.

    Mae'r Bwrdd yn cynnwys:

    • Pum aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd)
    • Archwilydd Cyffredinol Cymru
    • Tri o weithwyr Swyddfa Archwilio Cymru.

    Gyda’i gilydd, mae’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu o dan hunaniaeth ymbarél Archwilio Cymru.

    Mae’r Senedd [agorir mewn ffenestr newydd] yn awyddus i benodi dau Aelod Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, i ddechrau ym mis Mehefin 2024 a mis Hydref 2024.

    Manylion ceisiadau

    Dyddiad cau: hanner nos 1 Mawrth 2024.

    Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 15 Ebrill 2023.

    I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen penodiadau cyhoeddus y Senedd [agorir mewn ffenestr newydd].