Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn parhau i brofi heriau ariannol sylweddol

25 Medi 2025
  • Mae ein hofferyn data yn darparu rhagor o wybodaeth am sefyllfa ariannol bresennol cyrff y GIG

    Dangosodd ein harchwiliad o gyfrifon 2024-25 cyrff y GIG fod pob un o'r saith bwrdd iechyd unwaith eto wedi methu yn eu dyletswydd statudol i fantoli’r cyfrifon, gan godi cwestiynau pellach am gynaliadwyedd ariannol y system bresennol.

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i'r casgliad fod cyfrifon 2024-25 deuddeg corff y GIG yn cyflwyno eu sefyllfaoedd ariannol yn deg. Fodd bynnag, methodd pob un o'r saith bwrdd iechyd â chyflawni dyletswydd statudol i fantoli’r cyfrifon dros gyfnod o dair blynedd. O ganlyniad, rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar reoleidd-dra ar gyfer y cyrff hynny gan fod methu â chyflawni’r ddyletswydd hon yn golygu bod y cyrff wedi gwario mwy na’r hyn yr oedd ganddynt awdurdod i’w wario. Mae'r tair ymddiriedolaeth GIG a dau awdurdod iechyd arbennig i gyd wedi cyflawni eu dyletswydd i fantoli’r cyfrifon.

    Derbyniodd gwasanaethau iechyd yng Nghymru £11.57 biliwn o gyllid refeniw yn 2024-25, cynnydd arian parod o £927 miliwn. Roedd hyn yn sylweddol uwch na'r cynnydd o £744 miliwn yn 2023-24. Roedd cynnydd arian parod 2024-25 yn cyfateb i gynnydd mewn termau real o 4.5% mewn cyllid (o'i gymharu â chynnydd mewn termau real o 1.2% yn 2023-24). Ond yn erbyn cefndir o alw sylweddol, gwellaodd diffyg blynyddol GIG Cymru gan £60 miliwn. Er gwaethaf hyn, cynyddodd y gorwariant cronnol tair blynedd ar draws y GIG o £385 miliwn yn 2023-24 i £461 miliwn yn 2024-25.
    Mae gwariant ar staff asiantaeth wedi lleihau, gan wrthdroi'r twf cyson o 2018-19 i 2022-23. Roedd gwariant o £174 miliwn ar draws GIG Cymru yn 2024-25 46% yn is nag yn 2022-23. Er bod y mwyafrif o'r gwariant hwn (72%) yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cyflenwi ar gyfer swyddi gwag yn y gweithlu, mae tua 14% o wariant asiantaeth yn cefnogi gweithgarwch ychwanegol i helpu i ateb y galw.

    Mae cyrff y GIG yn gorfod cyflawni lefelau sylweddol o arbedion yn eu hymdrech i reoli costau. Cynyddodd yr arbedion a adroddwyd eto yn 2024-25, gan barhau â'r duedd o 2022-23, ac ar £253 miliwn, maent ar y lefel uchaf ers 2018-19. Mae'r GIG yn dal i ddibynnu'n helaeth ar arbedion untro nad ydynt yn rheolaidd gyda 38% o gyfanswm yr arbedion a adroddwyd yn 2024-25 yn perthyn i'r categori hwn. Yn gadarnhaol, fodd bynnag, mae'r ganran hon wedi gostwng eto ers 2023-24 ac o 60% yn 2022-23. Ym mis Mehefin 2025, gwnaethom gyhoeddi crynodeb o brif negeseuon o waith archwilio manylach a oedd yn edrych ar Arbedion Costau'r GIG.

    Mae cynllunio strategol cadarn yn allweddol os yw'r GIG am gyflawni gwasanaethau sy'n gynaliadwy yn glinigol ac yn ariannol. Fodd bynnag, dim ond un o'r byrddau iechyd oedd yn gallu sicrhau cymeradwyaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer cynllun tymor canolig integredig tair blynedd ar gyfer 2024-27. Cymeradwywyd cynlluniau tymor canolig a baratowyd gan y tair Ymddiriedolaeth GIG a dau awdurdod iechyd arbennig gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ond yn gyffredinol mae'n profi'n fwyfwy anodd i gyrff y GIG lunio cynlluniau cytbwys yn ariannol yn yr hinsawdd bresennol o bwysau costau a galw am wasanaethau.

    O fewn y system bresennol, mae methiant corff y GIG i lunio cynllun tair blynedd gytbwys yn ariannol fel arfer yn arwain at ddychwelyd i gynllun blwyddyn. Er bod yr angen i ddangos cydbwysedd ariannol yn y flwyddyn yn ddealladwy, mae perygl y bydd y pwyslais yn parhau ar y tymor byr ar draul cynllun tymor hwy. Mae angen i'r safbwynt hirdymor hwnnw gynnwys mwy o bwyslais ar atal salwch a all gynnig buddion cost a chanlyniadau sylweddol i'r GIG, fel y rhai a amlygwyd yn ein gwaith ar Wasanaethau Canser yng Nghymru.

    Ceir rhagor o fanylion yn Offeryn Data Cyllid GIG Cymru 2024-25 a gyhoeddwyd heddiw.

    ,
    Yn anffodus, mae rhoi barn archwilio amodol ar gyfrifon pob un o'r saith bwrdd iechyd oherwydd eu bod wedi methu â bodloni'r ddyletswydd statudol i fantoli’r cyfrifon dros dair blynedd wedi dod yn thema dro ar ôl tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad a lefelau cynyddol o arbedion yn methu â rheoli'r costau sy'n cael eu sbarduno gan y galw cynyddol am wasanaethau, pwysau chwyddiant a thwf cyffredinol mewn costau cyflogau. Y llynedd tynnais sylw at yr angen am ddull mwy sylfaenol a thrawsnewidiol o ddychwelyd y GIG i sefyllfa o gynaliadwyedd ariannol. Mae'r angen hwnnw'n dal i fodoli. Er ein bod wedi gweld cynnydd da o ran lleihau gwariant ar staff asiantaethau drud, a llai o ddibyniaeth ar arbedion untro, mae'r diffyg cronnus cynyddol yn awgrymu bod y GIG yng Nghymru ar y cyd ymhell o fod yn gallu byw o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael iddo. Wrth i mi fynd i mewn i'm blwyddyn olaf fel Archwilydd Cyffredinol, mae'n teimlo fel pe bai’r GIG hefyd yn mynd tuag at garreg filltir – pwynt lle mae mwy o'r un peth yn anghynaladwy os yw'r sefydliad yr ydym i gyd yn dibynnu arno yn mynd i fod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol