Mae buddsoddiad cynghorau mewn llety i oedolion ag anableddau dysgu yn ateb y galw presennol

09 Tachwedd 2020
  • Er gwaethaf y cynnydd, mae'r trefniadau presennol yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer y dyfodol, meddai'r Archwilydd Cyffredinol

    Mae angen i awdurdodau lleol fynd i'r afael â heriau sylweddol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion llety hirdymor pobl ag anableddau dysgu a'u gofalwyr. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar p'un a oes gan awdurdodau lleol ddulliau effeithiol yn eu lle i gomisiynu llety i oedolion ag anableddau dysgu. Mae'r camau comisiynu yn cynnwys asesu anghenion pobl; gosod blaenoriaethau a strategaethau i ddiwallu'r anghenion hynny; a phrynu nwyddau a sicrhau gwasanaethau i fynd i'r afael ag anghenion.

    Gyda'r cymorth cywir gall y rhan fwyaf o bobl ag anableddau dysgu fyw bywydau annibynnol ac, felly, wrth i wariant cyhoeddus leihau, mae cynllunio a darpariaeth effeithiol o ran gwasanaethau gofal a chymorth yn dod yn agwedd gynyddol bwysig o bolisi cyhoeddus yng Nghymru. Er bod cynnydd mewn sawl maes, canfu'r adroddiad bod yn rhaid i awdurdodau lleol a'u partneriaid wneud mwy i integreiddio gwasanaethau a datrys nifer o heriau cymhleth er mwyn cyflawni'r uchelgais o wasanaethau cynaliadwy.

    Mae adroddiad heddiw yn amcangyfrif y bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau cynnydd o tua £365 miliwn o ran buddsoddi mewn llety dros yr 20 mlynedd nesaf i fynd i'r afael â'r nifer cynyddol o bobl ag anableddau dysgu y bydd angen tai arnynt, a'r cynnydd yn y nifer ag anghenion cymedrol neu ddifrifol. O ystyried y rhagolygon ariannol, bydd yr her hon yn arbennig o feichus.

    Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i awdurdodau lleol, mewn chwe maes allweddol, gan gynnwys:

    • Parhau i ganolbwyntio ar atal pobl rhag dibynnu ar leoliadau drutach mewn cartrefi gofal drwy ddarparu cymorth effeithiol gartref ac amrywiaeth o lety camu ymlaen.
    • Gwella'r dull o ran cynllunio gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu. Er enghraifft, drwy ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth i feintioli'r diffyg presennol o ran y ddarpariaeth; a chytuno ar flaenoriaethau'r dyfodol yn seiliedig ar hyn.
    • Gwneud mwy i gynnwys pobl ag anableddau dysgu a'u gofalwyr wrth gynllunio gofal a chytuno ar lwybrau i annibyniaeth bellach.

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

    “Gyda mwy a mwy o bobl ag anableddau dysgu y mae angen llety arnynt, a chyllidebau'n parhau i gael eu gwasgu, mae angen i awdurdodau lleol wneud y defnydd gorau o'u trefniadau comisiynu er mwyn mynd i'r afael â'r her ariannol maent yn eu hwynebu. Mae angen gwneud mwy o ymdrech o amgylch atal – megis drwy ddarparu cymorth effeithiol gartref. Mae angen gwell gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill hefyd a gwneud mwy i integreiddio'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.”