Lansio parthau Cymraeg newydd ar gyfer ein gwefan

09 Tachwedd 2020
  • Rydyn ni wedi ymuno â nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru drwy symud ein gwefan i’r cyfeiriadau gwe newydd .cymru a .wales.

    Mae ein parthau ni bellach fel a ganlyn:
    • archwilio.cymru ar gyfer y safle Cymraeg, ac
    • audit.wales ar gyfer y safle Saesneg.
    Bydd symud i’r parthau Cymraeg newydd yn gwella ein presenoldeb cenedlaethol ar-lein, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chefnogi’r ymgyrch ehangach i Gymreigio’r we.
    Mae’r parthau newydd wedi bod ar gael ers 1 Mawrth 2015 ac mae dros 10,000 o barthau eisoes wedi eu cofrestru, o fusnesau bach i gyrff cyhoeddus mawr.
    Bydd cyfeiriadau e-bost hefyd yn cael eu diweddaru i gyd-fynd â’r parthau newydd, gan greu cyfeiriadau dwyieithog i’r sefydliad cyfan – sy’n unol â’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.
    Bydd ein hen barth wao.gov.uk yn ogystal â’r cyfeiriadau e-bost cysylltiedig yn parhau i weithio yn y dyfodol, drwy ailgyfeirio defnyddwyr.
    Darllenwch fwy am yr ymgyrch cenedlaethol ar wefan Ein cartref ar-lein [Agorir mewn ffenest newydd].