Lansio astudiaeth newydd i edrych ar gynhyrchu incwm mewn cynghorau

09 Tachwedd 2020
  • Cyfle i leisio eich barn fel defnyddiwr gwasanaeth neu fusnes bach yn ein harolwg cenedlaethol.

    Rydym wedi lansio astudiaeth newydd sy’n edrych ar sut mae cynghorau’n rheoli’r gwasanaethau sy’n cynhyrchu incwm iddynt ledled Cymru. Gwasanaethau fel:
    • meithrinfa a blynyddoedd cynnar
    • trafnidiaeth neu brydau ysgol 
    • gofal cymdeithasol 
    • chwaraeon a hamdden 
    • meysydd parcio 
    • cynllunio a rheolaeth adeiladu 
    • claddu ac amlosgi, neu     
    • gwastraff a sbwriel masnach. 
    Mae gan gynghorau bŵer i gyflwyno neu newid ffioedd sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau penodol maent yn eu darparu.
    Rydym eisiau gwybod pa effaith mae hyn yn ei chael ar y defnyddiwr gwasanaeth, naill ai fel busnes bach neu fel aelod o’r cyhoedd.                      
    Bydd ein hastudiaeth yn canolbwyntio ar 3 maes:
    • Cyllid – Faint o arian a gynhyrchir drwy’r ffioedd hyn? Pa gyfyngiadau sydd?             
    • Defnyddwyr a gwasanaethau – Ydi cynghorau’n ymgynghori’n effeithiol â busnesau neu aelodau’r cyhoedd wrth wneud newidiadau i’r ffioedd hyn? Sut mae newid y pris yn effeithio ar ddefnyddiwr y gwasanaeth? 
    • Cynllunio strategol – Pa brosesau sydd yn eu lle ar hyn o bryd? Ydi cynghorau’n asesu’r effaith fel rhan o’u cynllunio?               
    Mae lefelau cyllido cynghorau yng Nghymru’n parhau i ddirywio gyda’r cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru oddeutu £283 miliwn (7%) yn is yn 2013-14 nag yn 2010-11.
    Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n [Agorir mewn ffenest newydd] disgwyl i ddiffyg llywodraeth leol fod oddeutu £460 miliwn erbyn diwedd 2016. 
    O gofio am raddfa’r toriadau mae cynghorau wedi’u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gallai gwasanaethau sy’n creu incwm fod yn arwyddocaol o ran sut mae cynghorau’n darparu gyda llai.       
    Cewch ragor o wybodaeth am yr astudiaeth hon, neu gymryd rhan yn ein harolwg, drwy fynd i ficro-safle’r arolwg [Agorir mewn ffenest newydd]. Bydd yr arolwg yn cymryd ryw 10 munud i’w gwblhau ac mae eich ymatebion yn gwbl ddienw. Hefyd gallwch ddilyn y gweithgarwch ar gyfryngau cymdeithasol ar #WAOincomeGen [Agorir mewn ffenest newydd].
    Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr astudiaeth, anfonwch e-bost at y tîm Astudiaethau Cyngor.