Hoffech chi weithio i gorff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Rydyn ni’n chwilio am Archwilwyr Perfformiad

09 Tachwedd 2020
  • Tair swydd ar gael o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol mewn lleoliadau ar draws Cymru

    Rydyn ni’n chwilio am dri Archwiliwr Perfformiad (PS1) cymwys a phrofiadol i ymuno â ni ar unwaith o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol, ar sail barhaol.

    Fe fyddech chi’n gyfrifol am bob agwedd o drefnu gwaith, yn ogystal â chyfrannu at ei ddyluniad a’i chwmpas, ymchwilio a chasglu data, paratoi tystiolaeth a chyflwyno canfyddiadau i’r cyrff a archwilir.

    Os mae gennych chi ddealltwriaeth dda o'r fframweithiau polisi, rheoli perfformiad a rheoliadol allanol sy'n ymwneud â'r sefydliadau sy'n cael eu harchwilio, ac yn wybodus iawn ar y sector cyhoeddus Cymraeg a’r amgylchedd gwleidyddol, hoffem glywed gennych chi. Rydyn ni’n chwilio am bobl gyda sgiliau drafftio ac ymchwilio effeithiol, sy’n dangos barn gadarn a sgiliau meddwl beirniadol i sicrhau bod canlyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn mynd i'r afael â'r materion allweddol.

    Gallai'r swyddi gael eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, Penllergaer neu Abergele yn dibynnu ar y rôl. Yn ddelfrydol, rydyn ni’n chwilio am o leiaf un person sy’n siarad Cymraeg, er bod y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer pob un o'r rolau.

    Am fwy o fanylion ac i wneud cais, ewch i’n tudalen swyddi [agorir mewn ffenest newydd].