Helpwch i lywio ein harchwiliadau a'r pynciau a ddewiswn

09 Tachwedd 2020
  • Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru

    Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn galw ar aelodau o'r cyhoedd a phobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus i fynegi eu barn ar y pynciau a'r themâu y dylai’r Archwilydd Cyffredinol eu hystyried.

    Bydd yr adborth a gesglir yn helpu i lywio'r rhaglen waith ar gyfer corff gwarchod y sector cyhoeddus yn y dyfodol.

    Bob blwyddyn, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gwneud gwaith i archwilio darparu a rheoli gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Weithiau mae archwilwyr yn edrych ar faes gwasanaeth penodol, ar adegau eraill maent yn canolbwyntio ar sefydliadau unigol, prosiectau a rhaglenni cyllido penodol.

    Mae'r astudiaethau a ddewisir yn ein galluogi i rannu arfer da a chynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu. Mae'r heriau hyn yn sylweddol ac yn cynnwys cyfyngiadau ariannol; gweithredu cyfarwyddebau polisi newydd; a thirwedd wleidyddol newidiol gyda Brexit; ac amgylchedd digidol sy'n newid yn gyflym.

    Mae'r ymgynghoriad yn holiadur byr ar-lein, y gellir ei weld trwy ymweld â'n tudalen ymgynghoriadau. Bydd ar agor tan ddydd Gwener 6 Gorffennaf 2018.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw: “Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i bobl Cymru fynegi eu barn ar y meysydd a'r themâu a archwilir gennyf. Fy mhrif genhadaeth yw y dylai pobl Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol wybod a yw adnoddau cyhoeddus yn cael eu rheoli'n ddoeth a byddai gennyf ddiddordeb gwybod y materion allweddol sy'n bwysig i bobl a'r meysydd maent yn credu y dylwn ganolbwyntio arnynt yn fy rhaglen astudiaethau.”

    Cwblhewch ein hymgynghoriad ar-lein.